Pentref gwledig wedi'i 'gau i ffwrdd' rhag y byd modern
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion pentref yn y de-ddwyrain yn dweud eu bod wedi eu "cau i ffwrdd" rhag y byd modern oherwydd diffyg cysylltiad gyda'r we.
Mae rhai sy'n byw yn Llan-gwm ger Brynbuga hefyd yn dweud bod signal ff么n gwael yn golygu ei bod hi'n anodd gweithio o adref a chadw mewn cysylltiad 芒 phobl.
Yn 么l un dyn byddar sy'n derbyn triniaeth am ganser, mae wedi methu apwyntiadau ysbyty gan nad oedd e-byst wedi ei gyrraedd mewn pryd.
Mae Voneus, y cwmni sy'n darparu cysylltiad 芒'r we i nifer yn y pentref, wedi cael cais am ymateb.
- Cyhoeddwyd28 Mehefin
- Cyhoeddwyd29 Awst 2022
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022
Mae rhai trigolion wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru eu bod nhw wedi gorfod dringo i ben bryn cyfagos er mwyn derbyn signal ff么n digonol.
Ond mae John Bowler, 74, yn fyddar ac felly yn ddibynnol ar e-byst er mwyn gallu cysylltu gyda'i ffrindiau a doctoriaid.
"Mae'r we yn ofnadwy o bwysig i mi," meddai.
"Mae fy nghlyw i yn gwaethygu ac mae gen i broblemau iechyd eraill felly dwi'n dueddol o fod angen nifer o apwyntiadau, a dwi'n trefnu mwyafrif y rhain ar e-bost.
"Ond os nad ydw i'n ofalus, fe fydda i'n methu apwyntiadau. Dwi wedi methu sawl un yn barod."
'Pethau wedi gwaethygu'
Roedd cwmni Broadway yn darparu cysylltiad band-eang i nifer o bentrefwyr Llan-gwm, ond maen nhw bellach yn cael eu rheoli gan gwmni arall o'r enw Voneus.
Ar eu gwefan mae Voneus yn dweud mai eu "ffocws yw gwella'r cysylltiad band-eang mewn cymunedau anghysbell".
"Mi gawsom ni broblemau pan mai Broadway oedd y cyflenwr, ond mae pethau wedi gwaethygu ers i Voneus gymryd drosodd," meddai Mr Bowler.
"Ry'n ni'n cael ein cau i ffwrdd oherwydd mae'r cymdogion agosaf yn byw hanner milltir i ffwrdd, ac ry'n ni 300 lath i ffwrdd o unrhyw ffordd, felly 'ych chi'n gallu mynd dyddiau heb weld unrhyw un.
"Rydw i wedi cael sawl trawiad ar y galon, a fyswn i methu troi at gymydog pe bawn i yma ar ben fy hun."
Ychwanegodd ei fod yn teimlo'n "fregus" yn sgil yr holl ansicrwydd.
Yn 么l Keri Williams, fe wnaeth hi brynu dysgl loeren arbennig er mwyn cysylltu 芒'r we, gan ei bod wedi cael digon o anghysondeb y cyflenwad.
"Ro'n i'n gweithio gartref, roedd y ferch yn y coleg a doedd yr un ohonom yn gallu cysylltu gyda'r we - roedd yn hunllef," meddai.
"Ro'n i'n gorfod cerdded i ben pella'r ardd, neu yrru i'r dref er mwyn cael signal 4G."
Ychwanegodd bod ei phlant wedi ei chael yn anodd cael mynediad at waith ysgol yn ystod y pandemig, a hyd yn oed ar 么l prynu'r ddysgl loeren newydd, mae'r teulu yn dal i gael trafferthion o dro i dro.
"Roedden ni wedi cyrraedd y pwynt lle doedd y mab methu chwarae gemau ar yr Xbox a doedd y ferch methu cysylltu 芒'i ffrindiau," meddai Ms Williams.
Mae Jay Coleman, sydd hefyd yn byw yn y pentref, yn dweud ei fod yn cael trafferth rhedeg ei fusnes oherwydd yr heriau cysylltedd.
"Mae o'n araf ofnadwy. Mae'r holl bentref yn colli cysylltiad - ac mae hi'n gallu bod yn amhosib gweithio yma bron," meddai.
"O ddydd Iau tan ddydd Llun 'da ni heb gysylltiad 芒'r we, a heb unrhyw ffordd o gysylltu 芒'r byd."
Ychwanegodd fod y genhedlaeth h欧n yn y pentref yn aml yn "styc" o ganlyniad.
Mae Mr Coleman, sy'n berchen ar gwmni llety gwyliau ac asiantaeth dai, yn dweud ei fod wedi gorfod ad-dalu rhai cwsmeriaid oherwydd cwynion am ansawdd y cysylltiad 芒'r we yn y pentref.
Dywedodd ei bod hi "bron yn amhosib" cael gafael ar Voneus i drafod y broblem.
Mae Voneus wedi cael cais am ymateb gan 大象传媒 Cymru.