Effaith Covid-19 ar Gymru mewn siartiau
- Cyhoeddwyd
Bydd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn clywed tystiolaeth yng Nghymru o ddydd Mawrth 27 Chwefror i ddydd Iau 14 Mawrth.
Nol ym mis Tachwedd 2023 fe gyhoeddodd y corff oedd yn gyfrifol am roi cyngor gwyddonol i Lywodraeth Cymru asesiad o effaith y mesurau a gafodd eu cyflwyno i ymateb i Covid-19 rhwng mis Mawrth 2020 a Gorffennaf 2022.
Yn gyffredinol, nododd y dadansoddiad fod yr amddiffyniadau Covid-19 (fel y cyfnodau clo a rheolau o ran cymysgu) yn llwyddiannus o ran lleihau trosglwyddiad ac effaith uniongyrchol y feirws.
Marwolaethau Covid-19 a chynnydd brechu
Enghraifft o lwyddiant yr amddiffyniadau oedd lleihad yn nifer y marwolaethau Covid-19 wedi i'r cyhoedd gael eu brechu.
Er hynny, roedd niwed anuniongyrchol sylweddol wedi digwydd mewn meysydd eraill o ganlyniad i'r amddiffyniadau hyn.
Mae nifer o'r rhain yn dal i gael effaith ar sawl agwedd o gymdeithas yng Nghymru.
Gofal dwys yn ysbytai Cymru
Roedd yr amddiffyniadau yn gyfrifol am leihau'r niwed uniongyrchol o ganlyniad i Covid-19 wrth iddyn nhw leihau trosglwyddiadau ac, o ganlyniad, lleihau'r nifer oedd angen triniaeth ysbyty, y marwolaethau a'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.
Roedd hyn wedi arwain at lai o bobl mewn uned gofal dwys yn ysbytai Cymru maes o law.
Roedd y cyfnod clo wedi arwain at lai o weithgarwch gan y gwasanaeth iechyd a thwf mewn rhestrau aros.
Roedd negeseuon a chyngor y llywodraeth wedi lleihau nifer yr ymweliadau ag unedau brys, ond wedi cynyddu nifer y galwadau i wasanaeth 111 y gwasanaeth iechyd.
Roedd hyn hefyd wedi arwain at lai o farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Anghydraddoldeb addysg
Daeth y dadansoddiad i'r casgliad fod mwy o unigolion yn poeni'n fawr am eu llesiant a'u hiechyd meddwl eu hunain yn ystod cyfnodau reolau llym.
Roedd mwy o bryder yngl欧n 芒 llesiant ac iechyd meddwl ymhlith trigolion cymunedau mwy difreintiedig, menywod a'r grwpiau oedran iau.
Roedd yr amddiffyniadau yn gysylltiedig 芒 chynnydd mewn anghydraddoldebau addysg hefyd.
Yn haf 2021, bu cynnydd arwyddocaol yn y bwlch rhwng graddau plant oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad oedd yn gymwys.
Anghydraddoldeb cyflogaeth
Cafodd y cynllun ffyrlo effaith gadarnhaol ar gynnal lefelau cyflogaeth yn 2020, ond roedd yn gysylltiedig 芒 chynnydd yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau'r wladwriaeth.
Roedd anghydraddoldebau cyflogaeth gyffredinol yn uwch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd25 Chwefror
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023