大象传媒

Dwy ddynes wedi marw ar 么l i ddau gar daro'n erbyn ei gilydd - cwest

Madeline Elaine Brooks (chwith) a Beverly Pugsley (dde)Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Madeline Elaine Brooks (chwith) a Beverley Pugsley yn 85 a 69 oed

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dwy ddynes pan darodd dau gar yn erbyn ei gilydd, mae cwest wedi clywed.

Gwrthdarodd y car Nissan yr oedd Beverley Pugsley o Landaf yn ei yrru, gyda Madeline Elaine Brooks o'r Barri wrth ei hochr, yn erbyn cerbyd Audi arall ar 2 Tachwedd.

Clywodd y crwner fod y ddau gerbyd yn teithio i gyfeiriadau gwahanol ar yr A4050 yn ardal Y Wenf么 am 13:30 ar y dydd Sadwrn hwnnw.

Bu farw'r ddwy o ganlyniad i anafiadau i'r gwddf a'r frest, yn 么l archwiliadau post mortem gan Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dywedodd y crwner, Rachel Knight, ei fod yn angenrheidiol agor cwest gan fod ganddi reswm i amau fod y marwolaethau yn rhai "annaturiol".

Cafodd y cwestau eu gohirio i aros am ganlyniad yr ymchwiliadau troseddol gan yr heddlu, gyda'r crwner yn datgan y byddai'r achos yn cael ei adolygu mewn tua chwe mis.

Mynegodd Ms Knight ei chydymdeimladau 芒 theuluoedd Beverley Pugsley a Madeline Elaine Brooks.

Pynciau cysylltiedig