Mam o Wynedd yn pledio'n euog i bedwar achos o esgeuluso plant
- Cyhoeddwyd
Mae mam 33 oed o Wynedd wedi pledio'n euog i bedwar achos o esgeuluso plant.
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau bod cymdogion wedi codi pryderon ar 么l i larwm d芒n seinio am gyfnod hir o amser.
Ar ran yr erlyniad, dywedodd Helen Hall bod y larwm wedi canu am gyfnod hir a bod y cymdogion, pan yn edrych drwy'r ffenestr, wedi gweld dau blentyn noeth yng nghyntedd y t欧 a bod yr heddlu wedi'u galw.
Ychwanegodd bod yr heddlu yn pryderu am yr amodau byw yn y t欧 oedd yn gartref i bedwar o blant.
Dywedodd bod cyflwr y t欧 yn peri pryder a bod carthion yn yr ystafell folchi ac ystafell wely ac nad oedd yr heddlu yn gallu dweud ai carthion dynol neu rhai anifeiliaid oedden nhw.
Cyfaddefodd y fenyw ei bod wedi "ymosod yn fwriadol, cam-drin, esgeuluso a gadael" pob plentyn mewn modd "sy'n debygol o achosi dioddefaint neu niwed diangen i鈥檞 hiechyd".
Fe blediodd y fam yn euog i bedwar cyhuddiad ar wah芒n. Nid oes modd enwi'r fam na'r plant am resymau cyfreithiol.
Cafodd ei rhyddhau ar fechn茂aeth amodol ac mae disgwyl iddi hi gael ei dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 11 Hydref.