Diffyg cefnogaeth iechyd meddwl i or-gasglwyr
- Cyhoeddwyd
Mae tasglu Cymreig yn galw am fwy o gymorth iechyd meddwl i bobl sy鈥檔 gorgasglu pethau yn eu tai er mwyn atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu.聽
Mae arbenigwyr casglu, yn ogystal 芒 seicolegwyr, y gwasanaeth t芒n a chymdeithasau tai yn dweud bod angen atal pobl sy'n rhentu rhag colli eu tai oherwydd y broblem.聽
Y flaenoriaeth ydy cadw pobl yn eu tai yn ddiogel, yn 么l cymdeithas dai fwyaf Cymru.聽
I un fenyw o dde Cymru mae鈥檙 sefyllfa yn ei th欧 fel byw gyda 鈥渃hyfrinach dywyll鈥.聽
'Teimlo cywilydd'
Mae Rosemary, sy鈥檔 byw yn ne Cymru, wedi cael gyrfa lwyddiannus fel rheolwr prosiectau.聽
Ond mae'n teimlo cywilydd am ei hangen i gasglu a chadw pethau.
"Ychydig iawn o bobl sydd wedi bod yn fy nghartref mewn gwirionedd," meddai.
鈥淢ae鈥檔 teimlo fel cyfrinach dywyll."
Yn 么l Rosemary, mae'n anodd deall yn union pam ei bod yn cadw cymaint o bethau.聽
Mae'n credu bod yr angen yn gysylltiedig 芒 phrofiadau yn ystod ei phlentyndod - sef y cyfnod pan oedd ei rhieni yn cael gwared ar ei phethau heb ei chaniat芒d.聽
鈥淢ae'n teimlo'n llethol oherwydd rydych chi'n meddwl 'ydw i fyth yn mynd i ddod drwy hyn?'聽
鈥淲eithiau gall hynny wneud i mi deimlo鈥檔 eithaf digalon wrth i mi feddwl na allaf fyth oresgyn yr arfer.鈥
Er ei heriau, mae Rosemary yn obeithiol bod ei sefyllfa hi'n gwella, a hynny'n cael ei hadlewyrchu yn ei chartref.
'Cyflwr iechyd meddwl' yw e
Mae Rosemary wedi derbyn cefnogaeth gan Holistic Hoarding - sefydliad sy鈥檔 defnyddio cymorth therapiwtig ac ymarferol i amddiffyn pobl rhag colli eu tai o ganlyniad i gasglu gormod o bethau.
Mewn rhai amgylchiadau, gall landlordiaid a chymdeithasau tai orfodi tenantiaid i symud os yw casglu yn torri rheolau鈥檙 cytundeb.聽
"Mae un ym mhob tri o'n cleientiaid wedi teimlo eu bod yn gorfod casglu hyn ac arall,鈥 medd Kayley Hyman, cyfarwyddwr Holistic Hoarding.
鈥淢ae 97% ohonyn nhw yn casglu eto. Mae'n amlwg nad yw [cael eu gorfod i adael eiddo] yn gweithio.鈥澛
Yn 么l Kayley, mae ei th卯m hi yn adeiladu perthnasau gyda鈥檙 cleientiaid er mwyn ceisio deall pam maen nhw eisiau cadw pethau, cyn mynd ati i glirio鈥檙 nwyddau.聽
鈥淢ae angen i orgasglu gael ei ddeall fel cyflwr iechyd meddwl,鈥 yn 么l Sam Wainman, ymchwilydd seicolegol ym Mhrifysgol Birmingham.
聽鈥淢ae'r cyflwr wedi鈥檌 gynnwys mewn nifer o鈥檙 llawlyfrau diagnostig fel anhwylder iechyd meddwl, ac mae angen ei drin felly gan ddeddfwriaeth.鈥澛
Cefnogi tenantiaid sy'n gorgasglu
Ar 么l 15 mlynedd o weithio ym maes iechyd meddwl, dywed Kayley fod yna brinder gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n casglu gormod.
Dywed hefyd nad yw'r rhai sydd wedi cael gorchymyn cyfreithiol i glirio eu tai yn cael digon o gefnogaeth.
Mae hi wedi bod yn arwain tasglu o seicolegwyr, grwpiau cymorth, a darparwyr gwasanaethau - maen nhw wedi ymrwymo i ddod o hyd i ddull "empathetig" o gynorthwyo tenantiaid sy鈥檔 casglu.聽
Hyd yma, mae Cyngor Caerffili a Chyngor Dinas Casnewydd wedi dweud eu bod yn gefnogol.
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2023
Yn 么l Kayley mae angen 鈥渦no鈥檙 holl wasanaethau hyn鈥 ar sail y ffaith fod pob un eisiau 鈥渋鈥檙 person fod yn ddiogel鈥 yn ystod y broses.聽
Mae United Welsh, cymdeithas dai fwyaf Cymru, wedi arwyddo polisi sy'n cytuno i beidio 芒 chael gwared ar denantiaid sy'n ceisio cael help.
鈥淩ydym yn rhan o鈥檙 tasglu oherwydd ein bod ni鈥檔 credu bod angen ffordd sensitif ac empathetig i gefnogi pobl sy鈥檔 casglu,鈥 meddai Craig Singler, cyfarwyddwyr tai a chymunedau United Welsh.
鈥淓in blaenoriaeth ydy cadw pobl yn ddiogel gan sicrhau eu bod nhw鈥檔 gallu parhau i fyw yn eu tai.聽
鈥淵 cam olaf un ddylai gorfod mynd i'r llys i gael meddiant o eiddo."