大象传媒

Menyw, 83, i ad-dalu 拢173,000 ar 么l 'bygwth' pobl

Tabitha RichardsonFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yn rhaid i Tabitha Richardson dalu'r arian o fewn tri mis, neu fe allai hi wynebu cyfnod dan glo

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw 83 oed oedd yn "bygwth" pobl oedd yn methu ad-dalu benthyciadau anghyfreithlon wedi cael gorchymyn i dalu dros 拢173,000.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Tabitha Richardson o Gasnewydd wedi elwa yn ariannol o'i gweithgaredd troseddol - ac wedi ennill cyfanswm o 拢173,195.92.

Ym mis Awst y llynedd cafodd Richardson ei dedfrydu i ddwy flynedd o garchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd, am "fanteisio" ar bobl fregus a chodi llog o 40% ar fenthyciadau 28 wythnos o hyd.

Bydd yn rhaid iddi dalu'r holl arian yn 么l, ac fe glywodd y llys hefyd y bydd angen iddi werthu ei chartref er mwyn codi'r arian sydd ei angen.

Bydd chwech o ddioddefwyr yn derbyn iawndal o 拢35,285 yr un.

Roedd Richardson wedi pledio'n euog i droseddau o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, y Ddeddf Gwasanaethau Ariannol ac i drosedd arall o wyngalchu arian.

Clywodd y llys ei bod hi wedi cop茂o model benthyca ei chyflogwr blaenorol, oedd yn cynnig benthyciadau cyfreithlon.

Roedd hi wedi bod yn benthyg arian yn anghyfreithlon ers tua 20 mlynedd, a phan fethodd rhai ad-dalu ar amser, roedd Richardson yn aml yn anfon negeseuon testun a gafodd eu disgrifio yn y llys fel rhai "bygythiol".

Dywedodd y barnwr, Hywel James, os nad yw'r arian yn cael ei ad-dalu o fewn tri mis, fe allai hi wynebu hyd at flwyddyn a naw mis yn y carchar.

Bydd gwrandawiad pellach i drafod costau ar 1 Mai.

Pynciau cysylltiedig