Gwobr yn India i feddyg sy'n hyrwyddo tosturi mewn ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg o ogledd Cymru yn dathlu wedi iddi ddod o fewn trwch blewyn i gipio gwobr 鈥渂renhines ryngwladol鈥 yn India.
Daw merched o dras Indiaidd o bedwar ban byd i gystadlu yn Mrs India International Queen, ac eleni, fe ddaeth Dr Neelam Singh yn ail yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn ninas Delhi.
Ac roedd gwaith y meddyg, sy'n byw yn y Gaerwen, Ynys M么n, i geisio cael mwy o dosturi mewn ysbytai yn ganolog i'w llwyddiant.
Dywed Dr Singh, 51, sydd yn ymgynghorydd obstetreg a gynaecoleg yn Ysbyty Gwynedd, Bangor: 鈥淭ydi hyn ddim y math o beth y byddwn i fyth wedi ystyried ei wneud, felly fe roedd yn gryn dipyn o her.
鈥淩oeddwn i鈥檔 cario 'mlaen i feddwl 鈥榩am ydw i鈥檔 gwneud hyn鈥 ond rydw i鈥檔 ofnadwy o falch r诺an i mi ei wneud o.鈥
Nod y gystadleuaeth yw hyrwyddo gwragedd sy鈥檔 cyfrannu鈥檔 sylweddol i gymdeithas a grymuso eraill i wneud yr un peth.
Roedd 48 o wragedd yn Delhi fis Mehefin i gystadlu mewn un o ddau gategori, un i鈥檙 rhai o dan 40 oed, a鈥檙 llall - a elwid yn 'classic' - i鈥檙 rhai 40 a throsodd. Yn yr ail gategori yma roedd Dr Singh yn cystadlu.
Daeth y cystadleuwyr o wledydd fel Awstralia, UDA, Qatar, Sweden, Saudi Arabia, y DU ac India.
Bu鈥檔 rhaid iddynt fynd drwy dridiau o wahanol rowndiau heriol a llosgi鈥檙 gannwyll y ddau ben gan aros i fyny tan dri y bore a chodi eto am chwech o鈥檙 gloch.
Ond doedd y diffyg cwsg ddim yn broblem i Dr Singh gan ei bod wedi hen arfer gweithio shifftiau nos yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ac yn Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd: 鈥淩诺an 鈥榤od i鈥檔 ymgynghorydd, ychydig o waith nos rydw i鈥檔 wneud ar y cyfan, ond bob tro roeddwn i鈥檔 dechrau blino, roeddwn i鈥檔 meddwl am y rhesymau pam fy mod i鈥檔 gwneud hyn - i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 gwaith rydw i鈥檔 wneud r诺an i helpu pobl fod y fersiwn gorau ohonyn nhw ei hunain yn y gwasanaeth iechyd.鈥
'Edrychiad ddim yn bwysig yn y gystadleuaeth'
Daeth Dr Singh o India i Brydain yn 2002 ac wedi cyfnod yn gweithio fel meddyg iau yn Ysbyty Glan Clwyd, cafodd swydd fel ymgynghorydd mewn ysbyty yn Blackpool.
Ond roedd y teithio a byw mor bell o鈥檌 chartref ar Ynys M么n yn ormod ac fe ddaeth yn 么l i Gymru.
Mae ei g诺r, Bipin Chawla, yn ffigwr amlwg yn ninas Bangor gan redeg siop bapur newydd ym Mangor Uchaf, a busnesau eraill, ers degawdau. Mae gan y cwpwl ferch 13 oed, Rhea.
Dywed Dr Singh nad pasiant harddwch arferol yw Mrs India International Queen, ond yn hytrach ei fod yn ceisio hyrwyddo merched llwyddiannus er mwyn grymuso merched eraill i gredu y gallant hwythau wireddu eu breuddwydion.
Dywedodd: 鈥淭ydi cael edrychiad penodol ddim yn bwysig yn y gystadleuaeth yma. Dydi鈥檙 beirniaid ddim yn poeni am eich taldra na鈥檆h pwysau a phethau fel yna.
鈥淵n hytrach maen nhw鈥檔 edrych ar sut rydych chi鈥檔 cynnal a chyflwyno eich hun dros dridiau pan rydych o dan bwysau dwys.鈥
Ac roedd ei gwaith i rymuso pobl i wella eu hunain yn rhan bwysig o'i llwyddiant.
Gwella sgiliau cyfathrebu cyd-weithwyr
Bellach, dridiau'r wythnos mae hi鈥檔 gweithio mewn obstetreg a gynaecoleg. Am y deuddydd arall mae鈥檔 gweithio i ddysgu sgiliau cyfathrebu i鈥檞 chyd-weithwyr yn y gwasanaeth iechyd.
Gall hyn gynnwys hyfforddiant am sut i dorri newyddion drwg, arweinyddiaeth dosturiol, a helpu gweithwyr meddygol i 鈥済reu'r fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain鈥 trwy ofalu am eu lles.
Drwy wneud hyn, dywed Dr Singh y gallant ddelio 芒'u cleifion gyda chymaint mwy o dosturi, empathi a pharch at fywyd dynol - sy'n gallu ymddangos yn brin ar adegau.
鈥淔e ddechreuodd hyn pan gafodd fy nhad ei gymryd yn wael yn India,鈥 meddai.
鈥淩ydw i wastad wedi meddwl am sut rydym ni yn y gwasanaeth iechyd yn delio gyda chleifion, ac roedd y driniaeth gawsom ni fel teulu, a鈥檓 tad, yn yr ysbyty yn India yn anghredadwy o wael.
鈥淎llwn i ddim coelio nad oedd y staff yno yn malio dim am y ffordd roedden nhw鈥檔 siarad hefo ni a pa mor ddigywilydd oedden nhw. Fe aethon ni drwy amser caled iawn.鈥
'Pwysigrwydd tosturi, empathi a pharch at fywyd dynol'
Yn anffodus fe fu farw tad Dr Singh a phan ddaeth hi yn 么l i Gymru, dechreuodd feddwl am sut allai wella pethau.
鈥淔e es i ar gyrsiau a chael fy hyfforddi mewn sut i gyfathrebu 芒 phobl mewn sefyllfaoedd anodd a bellach rydw i鈥檔 creu rhaglenni hyfforddi a mynd o amgylch nifer o fyrddau iechyd yn hyfforddi doctoriaid, nyrsys ac unrhyw staff clinigol.
鈥淩ydw i鈥檔 ei dysgu nhw sut i edrych ar 么l eu hunain yn gyntaf sy鈥檔 golygu eu bod nhw鈥檔 fwy tosturiol efo pawb o鈥檜 hamgylch. Eu grymuso i weld y p诺er sydd ynddyn nhw fel unigolion a bod ganddyn nhw'r potensial i wneud unrhywbeth maen nhw eisiau. Unrhywbeth o gwbl.
鈥淩ydym yn cael ein geni gyda photensial a grym aruthrol, ond ddywedodd neb hyn wrtha鈥檌 pan oeddwn i鈥檔 blentyn ac mae o mor, mor, bwysig.
鈥淩ydw i'n gweithio i greu ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr meddygol am bwysigrwydd tosturi, empathi a pharch at fywyd dynol.
鈥淓ffaith hyn fyddai bod pobl sy'n mynd 芒'u hanwyliaid i ysbytai yn cael y gofal gorau posibl.
鈥淔e wnes i gymryd rhan yn y gystadleuaeth achos fy mod i鈥檔 chwilio am blatfform i鈥檙 neges yna, ac roedd Mrs India International Queen yn llwyfan sylweddol.
鈥淢ae wedi rhoi cyfle i fy llais estyn allan at feddygon a nyrsys ac yn bwysicaf oll, at y rhai sydd wedi colli rhywun annwyl yn yr ysbyty.
鈥淓r cof am fy nhad rydw i鈥檔 gwneud hyn, ac yn falch iawn fy mod i wedi cymryd y cam yma.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020