´óÏó´«Ã½

Sunak yn beirniadu llywodraeth Lafur Cymru mewn dadl deledu

Dadl ITVFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddadl deledu gyntaf yn yr etholiad cyffredinol eleni ar ITV nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi beirniadu record Llywodraeth Lafur Cymru wrth redeg y gwasanaeth iechyd, yn nadl deledu gyntaf yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Rishi Sunak fod pobl yng Nghymru yn aros "40% yn hirach" am driniaeth yng Nghymru nag yn Lloegr.

Ymosod ar record y Ceidwadwyr yn Lloegr wnaeth arweinydd Llafur Prydain, Keir Starmer, gan ddweud bod y gwasanaeth iechyd yno mewn cyflwr gwaeth nawr na phan ddaeth y Ceidwadwyr i rym yn 2010.

Dywedodd Plaid Cymru fod y ddadl rhwng y ddau arweinydd yn llawn "negyddiaeth" ac yn "hysbyseb wael i wleidyddiaeth".

Y ddadl rhwng Rishi Sunak a Syr Keir Starmer ar ITV oedd y cyntaf o gyfres o ddadleuon teledu sydd i ddod yn ystod yr ymgyrch etholiadol - a chwestiynau ar fewnfudo, costau byw a'r gwasanaeth iechyd ymhlith y pynciau a godwyd gan y gynulleidfa fyw.

'Awr boenus'

Tra'n beirniadu record llywodraeth Lafur Cymru ar iechyd, cyfaddefodd Mr Sunak fod y gwasanaeth iechyd yn wynebu "heriau" ar draws y Deyrnas Unedig.

Ond dywedodd mai amseroedd aros damweiniau ac achosion brys Cymru oedd "y gwaethaf yn y DU".

Dywedodd yr arweinydd Llafur Prydain, Keir Starmer, bod yr hyn oedd wedi digwydd i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr dan y Ceidwadwyr yn "anfaddeuol" - gan gyhuddo'r Ceidwadwyr o'i adael mewn cyflwr gwaeth na phan ddaethon nhw i rym 14 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Syr Keir bod rhestrau aros yn Lloegr wedi cynyddu o 7.2m i 7.5m, er i Mr Sunak fynnu eu bod nhw wedi dod i lawr.

Doedd Plaid Cymru ddim yn rhan o'r ddadl hon, ond mewn datganiad dywedodd eu harweinydd, Rhun ap Iorwerth fod "Cymru'n haeddu gwell" a bod y ddadl yn hysbyseb wael i wleidyddiaeth.

"Yr unig sôn am Gymru yn yr awr boenus honno oedd fel cocyn hitio gan Rishi Sunak ar y gwasanaeth iechyd, tra bod Keir Starmer yn gwadu cyfrifoldeb ei blaid", meddai.

"Mae Cymru'n haeddu gwell na hyn – oherwydd mae cleifion yn haeddu cael eu trin yn deg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Tu hwnt i iechyd, dywedodd yr arweinydd Llafur fod yr etholiad ar 4 Gorffennaf yn ddewis rhwng "anhrefn" gyda'r Ceidwadwyr neu droi'r dudalen gyda Llafur.

Dywedodd Prif Weinidog Prydain y byddai'n torri trethi, yn gwarchod pensiynau ac yn lleihau mewnfudo a bod gan y Ceidwadwyr gynllun sicr ar gyfer y dyfodol.

Bydd y ´óÏó´«Ã½ yn cynnal dadl rhwng saith plaid yn Llundain ddydd Gwener, fydd yn cynnwys Plaid Cymru.

Pynciau cysylltiedig