Carcharu dyn am geisio treisio dwy fenyw a cherdded heb drowsus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Abertawe wnaeth geisio treisio dwy fenyw a cherdded heb drowsus drwy ran o鈥檙 ddinas wedi cael ei garcharu.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Leo Payne, 20, o'r ddinas wedi ymosod ar y ddwy fenyw yn oriau m芒n 23 Mehefin.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Payne ymosod ar ddyn gyda photel win, ar 么l cael ei weld heb drowsus ac yn cyflawni gweithred rywiol yn gyhoeddus.
Fe glywodd y llys iddo bledio鈥檔 yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i ddau gyhuddiad o geisio treisio, un o ymosodiad rhyw trwy dreiddio, un cyhuddiad o ddinoethi ac un o glwyfo anghyfreithlon.
Fe wnaeth y Barnwr Paul Thomas KC roi dedfryd estynedig o 16 mlynedd i Payne gyda 11 mlynedd a thri mis yn y carchar.
Clywodd y llys gan yr erlyniad fod Payne wedi ymosod ar y fenyw gyntaf yn ardal Strand y ddinas, cyn cael ei herio i adael gan ddau weithiwr tacsi. Roedd ei drowsus i lawr.
Lai nag awr yn ddiweddarach, fe wnaeth Payne ymosod yn rhywiol ar ail fenyw ar Stryd y Berllan.
Fe gafodd ei weld yn ddiweddarach gyda'i drowsus i lawr ac yn perfformio gweithred rywiol ar Heol Walter.
Clywodd y llys ei fod wedyn wedi ymosod ar ddyn trwy ei daro sawl gwaith gyda photel win gan achosi anaf i'w ben.
'Penderfynol o ymosod yn rhywiol'
Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr Paul Thomas KC fod ymosodiadau Payne yn 鈥渄dychrynllyd鈥.
鈥淔e wnaethoch chi dargedu nifer o ferched, oedd ar eu pen eu hunain ac felly鈥檔 fregus, yng nghanol dinas Abertawe,鈥 meddai.
鈥淩oeddech chi'n benderfynol o ymosod yn rhywiol ar unrhyw fenyw oedd ar ei phen ei hun a groesodd eich llwybr y noson honno.鈥
Dywedodd y Barnwr Thomas pe na bai'r cyhoedd wedi ymyrryd yna byddai Payne wedi treisio鈥檙 ddwy fenyw.
鈥淒ydych chi ddim yn gwybod pam y gwnaethoch chi ymddwyn yn y ffordd honno, does neb i weld yn gwybod, a does dim byd i鈥檞 ddweud nad oes risg sylweddol y gallai hyn ddigwydd eto.鈥
Cafodd ei garcharu a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes.
Dywedodd Dirprwy Brif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, Iwan Jenkins, fod Leo Payne wedi "prowlan o amgylch canol y ddinas鈥 gan gyflawni ymosodiadau rhyw dychrynllyd a throseddau treisgar鈥.
鈥淔e wnaeth y dioddefwyr ymladd yn 么l, a diolch i鈥檞 hymdrechion nhw, roedden ni鈥檔 gallu gweithio gyda Heddlu De Cymru i sicrhau erlyniad llwyddiannus a fydd yn golygu bod Payne yn treulio amser dan glo am ei droseddau.鈥