大象传媒

Pobol y Cwm yn 50: Fy hoff straeon gwych a gwallgo'

Disgrifiad,

ADRODDIAD ARBENNIG O GWMDERI: Gruffydd Si么n Ywain sy'n hel atgofion am rai o straeon mwyaf hynod y Cwm

  • Cyhoeddwyd

Mae Gruffydd Si么n Ywain yn siwpyr-ffan o'r opera sebon Pobol y Cwm, sydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ar 16 Hydref 2024, ac yn cofio pob un manylyn am bob un stori sydd wedi bod dros yr hanner canrif (... bron).

Yma, mae Gruffydd yn rhannu ei gariad tuag at ei hoff raglen deledu, ac yn s么n am rai o'i hoff straeon sydd yn parhau yn y cof.

Ac er y byddai wedi gallu rhestru degau o straeon mwyaf cofiadwy y gyfres dros y blynyddoedd, meddai, mae wedi penderfynu canolbwyntio ar y rhai oedd ychydig mwy... od...

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"'Na fe'n un mowr!" chwedl Mrs Mac, eicon Gruffydd Si么n Ywain

"Gruffydd Sion Ywain dwi, gohebydd Cymru Fyw yng Nghwmderi.

"Mae 'na s么n mod i鈥檔 superfan o鈥檙 gyfres. Ac ydi, mae'n bosib fy mod yn ymddiddori yn helyntion Megan Harries fwy na鈥檙 rhan fwyaf o bobl, a do, mi es i鈥檔 star- struck i gyd pan weles i Gillian Elisa mewn caffi un tro...

"Mae fy nheulu yn taeru fy mod fel plentyn ifanc yn dawnsio pryd bynnag oedd cerddoriaeth gyfarwydd credydau agoriadol Pobol y Cwm i鈥檞 glywed ar y teledu.

"Pan symudais i Lundain daeth S4C ar gael dros y we am y tro cyntaf ac roedd cael rhywbeth Cymraeg i'w wylio yn rheolaidd yn atgof o adref.

"Y llynedd cefais y fraint o wylio鈥檙 bennod gyntaf i mi ei hysgrifennu yn cael ei recordio o 'nghuddfan yng nghefn y Deri Arms tra bod Sue Roderick a Victoria Plunkett yn dod 芒 ngeiriau yn fyw gyda鈥檜 perfformiad.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Si么n Ywain
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gruffydd neu Maggie Post? Ar daith ar y set yn 2018

"Superfan neu beidio, mae un peth yn sicr - o鈥檙 cychwyn cyntaf mae Pobol y Cwm wedi bod yna, yn rhan o鈥檓 mywyd bob dydd. Weithiau yn y blaendir wrth i鈥檙 gyfres groesi gyda鈥檓 mywyd proffesiynol neu wrth i stori arbennig fynnu cael ei drafod yn dwll gyda ffrindiau.

"Ar adegau eraill mae yn y cefndir. Yn ugain munud o鈥檙 dydd sy鈥檔 mynd a dod heb sylw.

"Mae o wastad yna, ac wedi bod ers 50 mlynedd erbyn hyn a gobeithio wir bydd yn parhau i fod yno am y 50 mlynedd nesa' hefyd."

Hoff straeon gwych a gwallgo' Gruff

Rhaid rhoi canmoliaeth uchel i rhain... y straeon wnaeth ddim cweit 'neud y cut

  • Pat a Dave, y swingers

  • Marwolaeth ffug Iori

  • Boob job Michelle Hill

  • Tat诺 Cilla (o enw Mark Jones)

  • Atgyfodiad Anti Marian

A beth yw'r pump uchaf? Gwyliwch y fideo uchod i ffeindio allan...

Pynciau cysylltiedig