Dirwy o 拢6,000 i ffermwr am dorri rheolau cadw gwartheg
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o Geredigion wedi cael dirwy am gyfres o droseddau yn ymwneud 芒 chadw a symud gwartheg.
Bydd yn rhaid i Gary Davies o fferm Bercoed Uchaf ym Mangor Teifi ger Llandysul dalu dros 拢6,000 mewn dirwyon a chostau wedi iddo bleidio'n euog i wyth o gyhuddiadau yn Llys Ynadon Aberystwyth.
Clywodd yr achos bod Davies wedi methu'n gyson 芒 rhoi gwybod am farwolaethau a symudiadau gwartheg ers 2021, na dilyn y mesurau gofynnol i atal clefydau rhag lledu ymysg gwartheg.
Fe gyfaddefodd hefyd ei fod wedi symud 99 o wartheg ar ac oddi ar ei fferm er gwaethaf cyfyngiadau rhag y dici芒u.
'Dim dewis ond dwyn achos'
Fe gafodd yr achos ei ddwyn gan adran Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.
Roedd swyddogion, medd llefarydd, wedi ymweld 芒 Davies ac ysgrifennu ato "sawl gwaith ers 2020 yn nodi achosion o dorri deddfwriaeth a rhoi cyngor ar y gofynion cyfreithiol".
Dywedodd llefarydd bod hi'n "siomedig" na gymerodd Davies sylw o'r cyngor a gafodd gan y swyddogion, oedd yn "golygu nad oedd gan yr Awdurdod lawer o ddewis ond dod 芒'r achos hwn i'r llys".
Mae'r cyngor yn pwysleisio bod "cynnal a chadw symudiadau anifeiliaid yn gywir yn hanfodol i reoli clefydau anifeiliaid, ac uniondeb y gadwyn fwyd".
Fe gafodd Davies ddirwyon o 拢2,200 am dorri rheoliadau adnabod gwartheg, gorchmynion rheoli clefydau, a gorchmynion TB.
Mae hefyd yn gorfod talu cost ychwanegol o 拢880, ynghyd 芒 拢3011.59 i'r cyngor sir am gostau dod 芒'r mater i'r llys, gan wneud cyfanswm yn 拢6091.59.