´óÏó´«Ã½

Llyfrau'r haf: Argymhellion Mari Siôn

Llyfrau CymraegFfynhonnell y llun, Mari Siôn
  • Cyhoeddwyd

Mae’n haf a'r haul yn tywynnu. Wrth i ni ddechrau meddwl am deithio a phacio, gorffwyso ac ymlacio, dyma wyth llyfr sy’n hawdd ymgolli ynddynt ar wyliau, boed law neu hindda.

Yma mae Mari Siôn, o Gyngor Llyfrau Cymru, a fu'n cyflwyno podlediad Caru Darllen, wedi llunio rhestr o'r llyfrau Cymraeg i'w darllen dros yr haf.

Ffynhonnell y llun, Gwasg Carreg Gwalch

Y Ferch ar y Cei gan Catrin Gerallt (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae Bethan Morgan yn ohebydd ar raglen deledu materion cyfoes yng Nghaerdydd. Clywai sïon am gynlluniau digon amheus i ddatblygu ardal y Cei yn y ddinas, ond mae ei chynhyrchydd eisiau ongl wahanol i’r stori.

Wrth ddod i adnabod rhai o drigolion yr ardal, mae Bethan yn cael ei thynnu’n ddyfnach i chwilio am y gwir. Llwydda’r nofel i blethu stori drosedd a stori menyw sy’n ceisio jyglo bywyd personol a theuluol, a hynny mewn modd celfydd a hynod o ddarllenadwy.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Pen-blwydd Hapus? gan Ffion Emlyn (Y Lolfa)

Ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 32 oed mae Martha yn cael anrheg gan ei rhieni sy’n troi ei byd ar ei ben. Wrth geisio gwneud synnwyr o’i bywyd yn sgil y newyddion, mae Martha’n mynd ar daith i geisio canfod y gwir, ac yn darganfod mwy amdani hi ei hun.

Nofel sy’n bachu’r darllenydd o’r dudalen gyntaf, sy’n neidio o’r presennol i’r gorffennol diweddar ac sy’n llawn troeon annisgwyl a hiwmor tywyll.

Ffynhonnell y llun, Sebra

Sut i Ddofi Corryn gan Mari George (Sebra)

Ymgollwch yn Llyfr y Flwyddyn 2024! Nofel ddychmygus sy’n mynd â ni o Bort Talbot i Gwatemala wrth i Muriel geisio dod o hyd i wellhad i’w gŵr, Ken, sy’n marw o ganser.

Ar ei thaith, daw wyneb yn wyneb â’i hofnau pennaf a thorri’n rhydd oddi wrth y gweoedd hynny sy’n ei chlymu’n saff.

Dyma nofel gyfareddol am gariad, am salwch ac am ofn.

Ffynhonnell y llun, Gwasg Carreg Gwalch

Hei Fidel! gan Pryderi Gwyn Jones (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae bywyd yn ddiflas i athro Cymraeg canol oed. Rhaid iddo fod yn amyneddgar yn y dosbarth, yn gymar a thad da, yn gymydog ac yn gyfaill triw. Ond yn ystod oriau tywyll y nos mae’r athro’n gwrthryfela, a daw’n rhan o ymgyrch i dalu’r pwyth yn ôl am un o’r camweddau mwyaf yn hanes Cymru.

Gyda chymorth Bob Marley, Bendigeidfran, Fidel Castro, Saunders Lewis, Oppenheimer a Jemima Niclas, i enwi dim ond rhai, a fydd yr athro a gweddill criw Seion yn llwyddo i ddinistrio dinas Lerpwl? Nofel ddychanol a ffraeth, llawn dychymyg.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Trigo gan Aled Emyr (Y Lolfa)

Stori ffantasi epig yw Trigo. Mae teyrnasiad y Brenin Peredur dan fygythiad, ac mae’r tensiynau rhwng y Bedair Ynys ar fin ffrwydro. Daw arglwyddi’r ynysoedd i’r brifddinas ar yr Ynys Wen gyda chynllun i ddisodli’r brenin, sy’n rhoi bywyd Siwan, ei ferch, mewn perygl.

Dial a chyfiawnder, llygredd a grym, unigrwydd a chyfeillgarwch – beth arall mae rhywun ei angen mewn nofel?

Ffynhonnell y llun, Gwasg y Bwthyn

Madws gan Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)

Yn 1752 newidiodd y calendr a chollodd pawb un ar ddeg diwrnod. Pawb heblaw Martha. Mae’r hyn a ddigwyddodd i Martha yn ystod y cyfnod erchyll hwnnw wedi ei melltithio am weddill ei hoes. Dim ond Madws all godi’r felltith.

Nofel ffantasi hanesyddol, aml-haenog sy’n teimlo’n gyfredol ar yr un pryd. Gyda chlawr trawiadol ac ymylon y tudalennau wedi eu haddurno, dyma gyfrol hynod hardd hefyd.

Ffynhonnell y llun, Gwasg y Bwthyn

Aur yn y Pridd gan Gwen Parrott (Gwasg y Bwthyn)

Mae Dela Arthur yn ei hôl! Mae’n ddechrau gwyliau haf 1948, ac mae’r brifathrawes a’i hanian chwilfrydig yn difaru trefnu taith addysgiadol i ddisgyblion ysgol gynradd Nant yr Eithin. Yn ystod y daith mae’r bws yn mynd i’r ffos ar ffordd unig ger safle cyn-hanesyddol. Wrth i ffermwr lleol fygwth y criw â gwn, daw’r plant o hyd i esgyrn mewn twll yn y clawdd...

Nofel hynod o hawdd i ymgolli ynddi – perffaith i unrhyw un sy’n mwynhau stori dditectif.

Ffynhonnell y llun, Honno

Hi / Hon – Gol. Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis (Honno)

Dyma gasgliad o straeon ac ysgrifau gan ddeg awdur benywaidd sy'n trafod eu profiadau o fyw yng Nghymru. Mae’r cyfraniadau’n amrywio o ran genre, arddull ysgrifennu, naws, hyd, profiadau a chefndiroedd yr awduron, gyda darluniau gan yr artist Seren Morgan Jones.

Ymysg y cyfranwyr mae Manon Steffan Ros, Nia Morais, Miriam Elin Sautin a Megan Hunter.

Dyma gyfrol i’w phori fesul ysgrif, neu i’w mwynhau ar ei hyd.

Mae’r holl gyfrolau hyn, a llawer mwy, ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.