大象传媒

Ateb y Galw: Dilwyn Price

Dilwyn PriceFfynhonnell y llun, Dilwyn Price
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dilwyn Price

  • Cyhoeddwyd

Mae o'n gymeriad cyfarwydd i filoedd o blant fu'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni...

Dilwyn Price, sydd wedi gwirfoddoli gyda'r mudiad ers degawdau, ydi meistr y seremoni ar Lwyfan y Cyfrwy lle mae'r holl ganlyniadau yn cael eu cyhoeddi.

Cyn i'r camer芒u ddod yn fyw at Mari Lovgreen i ddatgelu'r enillydd, Dilwyn Price sy'n cadw trefn a chael hwyl gyda'r dorf... a heddiw y fo sy'n Ateb y Galw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dilwyn Price a Mari Lovgreen yn diddanu'r dorf ar Lwyfan y Cyfrwy 2024. Mae'r lleoliad - a'r ddau gymeriad - wedi dod yn elfen bwysig o'r Eisteddfod ers iddi ail-gychwyn ar 么l y pandemig

Beth yw eich atgof cyntaf?

Yn ddwy neu dair blwydd oed daeth injan st锚m i鈥檙 stryd lle oeddwn yn byw ym Maes Pennant, Mostyn.

Wrth i Dad fy nghodi i sefyll gyda鈥檙 gyrrwr fe agorwyd drws y t芒n a chlywais y geiriau 鈥淒yma lle mae hogia' drwg yn mynd!鈥

Neidiais yn syth yn 么l i freichiau diogel Dad!!

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Porth Trecastell, Sir F么n. Dyma un o lefydd gorau Helen a finnau, lle cawsom gymaint o hwyl ac ymweliadau difyr gyda鈥檙 teulu a ffrindiau ar y traeth. Llosgi, chwerthin, oeri, cysgodi...

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Porth Trecastell

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Mai 12fed 1970 - dyma鈥檙 noson pan gafodd Helen a finnau ein cusan gyntaf.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair

Cyfeillgar, bywiog, direidus

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dilwyn Price

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'n么l?

Tra鈥檔 aelod o Cantorion Gwalia, o dan arweiniad y ddiweddar Rhys Jones, cawsom gymaint o hwyl cyn ein hymarferion yn rhannu stor茂au a hel atgofion am rai o gyngherddau gynt - y f芒s blodau, a鈥檙 piano a鈥檙 angen i fynd i鈥檙 toiled yn glasur!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Cefais fy ngwers gyntaf nofio, credwch neu beidio, yn neuadd yr ysgol - pawb yn gorwedd ar gadeiriau ac yn smalio nofio.

Un diwrnod oer ym mis Hydref aethom o Ysgol Bryn Pennant i鈥檙 Royal Lido, hen bwll nofio awyr agored ym Mhrestatyn, i dderbyn ein gwers nofio gyntaf go iawn.

Wrth reswm roedd Mam wedi sicrhau fod gennyf bar newydd o trunks - rhai gwl芒n! Neidiais i mewn i鈥檙 d诺r oer ac yna... dwi鈥檔 si诺r 'da chi鈥檔 gallu dyfalu sut nath y gwl芒n a鈥檙 d诺r wrthdaro!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Daeth deigryn i鈥檓 llygad wrth wylio rhaglen teyrnged ar y teledu i鈥檙 ddiweddar chwaraewr rygbi Rob Burrow. Am ddyn, a theulu dewr, yn gorfod wynebu byw gyda MND. Roedd Kevin Sinfield yn ffrind mor annwyl a gwerthfawr.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi鈥檔 si诺r fod gennyf nifer! Diffyg clywed beth mae Helen yn ei ddweud ydi鈥檙 diweddaraf!

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd/FfotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim rhyfedd nad ydi Dilwyn yn clywed Helen gyda'r holl s诺n ar Lwyfan y Cyfrwy...

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Dwi wedi troi tudalennau Lord of the Rings mwy nag unwaith ac yn dal i fwynhau'r antur hudolus.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi鈥檔 cael diod a pham?

Yn ddi-os un o鈥檓 harwyr ydi Gareth Edwards ond basa鈥檔 braf cael sgwrs gyda Tchaikovsky neu Bach neu Handel.

Sut ar y ddaear wnaethant greu gymaint o gampweithiau cerddorol? Pwy oedd yn paratoi'r papur manuscript?

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Pan es i draw i 10 Stryd Downing, 1 Fawrth 2016, eisteddais o gwmpas bwrdd a ddefnyddwyd yng Nghynhadledd G8 2013 draw yng Ngogledd Iwerddon.

Efallai roeddwn yn eistedd yn s锚t Angela Merkel neu Barack Obama neu Vladimir Putin...

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi鈥檔 ei wneud?

Mwynhau cwmni fy nheulu wrth arwain glamp o Jambori!

Pa lun sy鈥檔 bwysig i chi a pham?

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nain a Taid gyda'u wyrion a'u wyresau: (o'r chwith i'r dde) Efa, Lili, Helen, Dilwyn, Noa, Lwsi a Cadi

Dyma luniau o鈥檔 nheulu sy鈥檔 golygu gymaint i mi. Pob un yn arbennig iawn a gwerth y byd i gyd.

Petasech chi鈥檔 gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Gareth Edwards yn sgorio cais dros Gymru i guro鈥檙 Crysau Duon!

Pynciau cysylltiedig