Nyrs mewn perthynas gudd wedi methu achub bywyd claf
- Cyhoeddwyd
Mae enw nyrs wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr nyrsio am fethu 芒 sicrhau help i achub bywyd claf yr oedd hi mewn perthynas gudd ag ef.
Fe ddyfarnodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) bod Penelope Williams, oedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wedi dwyn anfri ar y proffesiwn.
Bu farw'r dyn, sy'n cael ei nabod fel Claf A, o fethiant y galon a chlefyd yr arennau ym mis Ionawr 2022.
Daethpwyd o hyd iddo'n anymwybodol yng nghefn ei gar gyda'i drowsus i lawr, wedi i'r ddau gwrdd ym maes parcio Ysbyty Spire, Wrecsam y noson dan sylw.
Fe glywodd gwrandawiad addasrwydd i ymarfer bod Ms Williams heb alw am ambiwlans wedi i'r dyn lewygu.
'Yn crio ac mewn trallod'
Roedd Ms Williams, nyrs gyffredinol yn un o Unedau Haemodialysis Arennol y bwrdd iechyd, wedi cyfarfod Claf A yn wreiddiol tua blwyddyn ynghynt.
Roedd y dyn y byw gyda sawl cyflwr iechyd, ac yn treulio cryn amser yn cael triniaeth yn yr uned.
Ar y noson dan sylw, roedd Ms Williams wedi mynd i gartref cydweithwyr cyn cwrdd 芒 Chlaf A yn ddiweddarach.
Ychydig cyn hanner nos, fe ffoniodd Ms Williams y cydweithiwr "yn crio ac mewn trallod ac yn gofyn am help鈥.
Ar 么l dweud wrth y cydweithiwr bod 鈥渞hywun wedi marw鈥, fe gafodd Ms Williams gyngor i ffonio am ambiwlans, ond ni wnaeth hynny.
Pan gyrhaeddodd ei chydweithiwr faes parcio'r ysbyty, daeth o hyd i Glaf A heb ei wisgo'n llawn ac yn anymwybodol, ac fe ffoniodd 999 ei hun.
Daeth cadarnhad yn fuan wedi hynny bod y dyn wedi marw.
Cyfaddef i'r berthynas
Dywedodd Ms Williams yn wreiddiol i'r heddlu a pharafeddyg ei bod wedi mynd i'r maes parcio wedi i Glaf A anfon neges ati yn dweud ei fod yn teimlo'n s芒l.
Y diwrnod canlynol, wrth roi datganiad i'r heddlu, fe gyfaddefodd bod hi a'r dyn mewn perthynas rywiol.
Ond mewn cyfarfod ym mis Chwefror, fe wadodd wrth swyddogion bwrdd iechyd ei bod mewn perthynas 芒 Chlaf A.
Dywedodd eu bod wedi 鈥渆istedd yng nghefn ei gar am ryw 30-45 munud yn siarad鈥 cyn i Glaf A 鈥渄dechrau gruddfan a marw'n sydyn".
Mewn gwrandawiad disgyblu ym mis Mai, cyfaddefodd i'r berthynas ac iddi fethu 芒 ffonio am ambiwlans ac fe gafodd ei diswyddo'n syth.
Camymddygiad difrifol
Dyfarnodd panel yr NMC bod methiant Ms Williams i ddatgelu'r berthynas rywiol gyda'r claf "yn rhoi ei buddiannau ei hun o flaen lles Claf A鈥.
Dywedodd bod Ms Williams yn 鈥渆difar iawn鈥, ond ei bod heb ddirnad yn llawn y niwed posib i enw da nyrsio a diogelwch y cyhoedd.
Roedd hynny, medd y panel, gyfystyr 芒 chamymddygiad difrifol ac yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer.
Gan dynnu ei henw o'r gofrestr nyrsio am byth, dywedodd y panel bod "dim nodweddion lliniarol" i'r achos, ac y byddai caniat谩u iddi barhau i weithio fel nyrs "yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn ac yn yr NMC fel corff rheoleiddio鈥.