Gorau Chwarae Cyd Chwarae: Hanes arwyddair t卯m p锚l-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' - yr arwyddair sy'n gyfarwydd iawn i gefnogwyr Cymru wrth i'r t卯m cenedlaethol baratoi ar gyfer eu g锚m yn erbyn Twrci ddydd Gwener yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond nifer bach fydd yn ymwybodol o darddiad yr arwyddair, heblaw o bosib am y cefnogwyr hynny fydd yn teithio o Bont-y-clun i Gaerdydd.
Y t卯m p锚l-droed o Rondda Cynon Taf oedd y cyntaf i ddefnyddio'r geiriau ar eu crysau yn 1920au, ac maen nhw dal i'w ddefnyddio hyd heddiw.
"Thomas Edgar Russell - neu Tommy Russell - yw'r dyn i ddiolch am sicrhau fod yr arwyddair wedi cael ei fabwysiadau gan y t卯m cenedlaethol yn 1951," meddai Tudor Davies, Cadeirydd Clwb P锚l-droed Pont-y-clun.
"Fe hefyd oedd tu cefn i'r arwyddair mae'n debyg.
"Mae yna gellwair ysgafn wedi bod dros y blynyddoedd gyda'r Gymdeithas, yngl欧n 芒 phwy bia'r arwyddair, ond yn bendant fan hyn wnaeth e' gael ei wisgo gyntaf a 'dy ni wedi bod yn ei wisgo byth ers hynny," ychwanegodd.
"Does dim dyddiad pendant, ond y gred yw bod y clwb wedi dechrau defnyddio'r arwyddair rhywbryd yn ystod y '20au."
"Roedd e'n hoff o'r arwyddair am ei fod yn pwysleisio'r pwysigrwydd o chwarae fel t卯m."
Ffurfio clwb Pont-y-clun
Russell oedd golwr Pont-y-clun ac ysgrifennydd y clwb ond roedd hefyd yn ddylanwadol yn rhengoedd Cymdeithas B锚l-droed Cymru gan ddod yn llywydd rhwng 1967 a 1972.
Wrth i'r Gymdeithas ddathlu ei phen-blwydd yn 75 oed yn 1951, cafodd y penderfyniad ei wneud fod angen bathodyn, gydag arwyddair oddi tano i'w roi ar y crys coch.
A dyna pryd ymddangosodd 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' am y tro cyntaf, a hynny yn erbyn t卯m dethol X1 Prydain Fawr.
Roedd yr arwyddair yn ymddangos o dan fathodyn o'r ddraig ar gefndir gwyrdd ac wedi ei amgylchynu gan 11 o gennin, gan gynrychioli 11 o chwaraewyr y t卯m a hefyd symbol cenedlaethol Cymru.
Erbyn hyn mae'r arwyddair ar grys Cymru wedi ei wahanu o'r bathodyn, gan ymddangos ar gefn y coler; daeth y newid yn 2019.
Yn ogystal 芒 chael ei wisgo ddydd Gwener gan Gymru wrth iddynt wynebu Twrci, fe fydd yr arwyddair hefyd yn ymddangos ar grysau Pont-y-clun wrth iddynt droedio i'r cae yn erbyn Prifysgol Abertawe ddydd Sadwrn.
Cafodd y clwb o Rondda Cynon Taf ei ffurfio yn 1896 gan ymuno 芒 Chymdeithas B锚l-droed Cymru yn 1922.
Erbyn hyn maen nhw鈥檔 chwarae yn Ardal De Orllewin, Cynghrair P锚l-droed Cymru.
Dywed clerc y cyngor lleol, Julius Roszkowski, fod yna falchder yn perthyn i'r ffaith fod yr arwyddair wedi cael ei fathu gyntaf gan glwb y dref. Ychwanegodd fod y dref hefyd wedi cyfrannu yn eu tro i hanes y b锚l hirgron yng Nghymru.
"Mae yna le i ymfalch茂o yng nghlwb p锚l-droed a chlwb rygbi'r dre, gan fod y ddau wedi cael dylanwad yn eu maes.
"Do, am le gymharol fach mae'r ddau glwb gafodd eu ffurfio tua'r un amser wedi gadael eu marc.
"'Dy ni'n gwybod am 'Gorau Chwarae' a bod hynny wedi cael ei fachu gan y t卯m cenedlaethol ac yna mae'r maswr rhyngwladol Cliff Jones - roedd e' yn llywydd ar y clwb rygbi yma ond hefyd daeth e yn llywydd ar Undeb Rygbi Cymru yn ystod dathliadau eu canmlwyddiant yn 1980-81."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022