大象传媒

Parc Gwledig wedi gorfod cau yn sgil llifogydd

Llifogydd ar safle Parc Gwledig LoggerheadsFfynhonnell y llun, Loggerheads Country Park
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd aelod o staff fod "o leiaf tair troedfedd a hanner" o ddyfnder i'r d诺r y tu mewn i'r adeiladau

  • Cyhoeddwyd

Mae Parc Gwledig yn Sir Ddinbych wedi gorfod cau oherwydd llifogydd ar y safle.

Yn dilyn glaw trwm a lefel uchel Afon Alun, bu'n rhaid cau canolfan ymwelwyr a chaffi Parc Gwledig Loggerheads ger Y Wyddgrug.

Mae'n bosib y bydd yr atyniadau yma ar gau am weddill y flwyddyn oherwydd y difrod.

Dywedodd Rachel Jones, sy'n gweithio yn y parc, iddi gyrraedd ei gwaith a gweld fod y safle dan dd诺r.

"Roedd lefel yr afon wedi codi'n uwch na'r banciau ac i mewn i'n gerddi te ac i mewn i'r adeiladau lle mae ein galeri, ystafell y gwirfoddolwyr a'r felin," meddai.

Ffynhonnell y llun, Loggerheads Country Park

Yn 么l Ms Jones, roedd o leiaf "tair troedfedd a hanner" o ddyfnder i'r d诺r y tu mewn i'r adeiladau, "ond ei bod yn anodd dweud yn iawn".

Dywedodd fod y ganolfan yn lwcus nad oedd unrhyw waith yn cael ei arddangos yn y galeri ar y pryd, ond fod 'na rhywfaint o offer yn sownd y tu mewn.

"Y brif broblem yw'r amser y mae'n cymryd i wneud y gwaith adfer ac i sychu'r adeilad.

"Mwy na thebyg, mae hi am gymryd cwpwl o fisoedd cyn bod modd ailagor yr adeiladau yma."

Mae'r parc yn y broses o wneud gwaith i adfer amddiffynfeydd llifogydd, gyda'r nod o leihau unrhyw ddifrod fydd yn cael ei achosi gan dywydd garw yn y dyfodol.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y gwaith cynnal a chadw wedi ei orffen erbyn diwedd Hydref, a'r nod yw lleihau nifer y llifogydd sy'n effeithio'r safle.

"Mae'n siom na fyddwn ni'n gallu arddangos rhannau o'r safle am gyfnod."

Pynciau cysylltiedig