大象传媒

Talu 拢1 wedi twyll 拢220,000 yn erbyn pensiynwr gafodd ei ladd

Richard Wyn LewisFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Richard Wyn Lewis ei ddisgrifio fel "twyllwr" a gymrodd arian gan bobl "mewn ffordd gwbl anonest"

  • Cyhoeddwyd

Mae twyllwr a gafodd ei garcharu am ddwyn arian gan bensiynwr - a gafodd ei lofruddio maes o law gyda bwa croes - wedi cael gorchymyn i ad-dalu dim ond 拢1.

Cafodd Richard Wyn Lewis, o Lanfair-yn-Neubwll ger Caergybi, ei garcharu am chwe blynedd am dwyllo tua 拢235,000 gan Gerald Corrigan a sawl person arall.

Bu farw Mr Corrigan ar 么l iddo gael ei saethu 芒 bwa croes tu allan i'w d欧 ar Ynys Lawd ym mis Ebrill 2019.

Clywodd y llys nad oedd cysylltiad rhwng y llofruddiaeth a'r cyhuddiadau o dwyll, a ddaeth i'r amlwg ar 么l i'r heddlu ddechrau eu hymholiadau wedi i Mr Corrigan gael ei saethu.

Twyllo sawl person

Roedd Lewis wedi gwadu 11 cyhuddiad o dwyll, ac un cyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ond yna fe gyflwynodd ble newydd yn achos pedwar cyhuddiad o dwyll, gan bledio'n euog.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Gerald Corrigan, 74, a'i bartner Marie Bailey, 68, wedi cael eu gadael gyda "bron dim byd" ar 么l i 拢220,000 gael ei dynnu o'u cyfrifon rhwng 2015 a 2019.

Rhoddodd y cwpl arian iddo - y rhan fwyaf mewn arian parod - i werthu a datblygu eu cartref, Gof Du, ger Ynys Lawd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Gerald Corrigan ei saethu'n farw yn 2019 - digwyddiad oedd yn ddim i'w wneud 芒'r achos twyll yn erbyn Richard Wyn Lewis

Fe gawson nhw eu perswadio i roi arian iddo hefyd i brynu ceffylau a hen ysgol pentref Llanddona.

Clywodd y llys fod dim ymgais wedi ei wneud i brynu'r ysgol a bod 'na'r un ceffyl yn eiddo i Mr Corrigan na Ms Bailey.

Ym mis Ebrill 2019 cafodd Mr Corrigan ei saethu'n farw gyda bwa croes y tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi.

Cafodd Terence Whall, 39 oed o Fryngwran, ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddiaeth, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 31 mlynedd dan glo.

Dyn 'hollol anonest'

Clywodd yr achos twyll yn erbyn Richard Wyn Lewis ei fod hefyd wedi hawlio 拢10,000 gan gymydog, Aiden Maginn, i brynu ceffylau.

Digwyddodd y twyll yma ddiwrnod wedi i Lewis ymddangos mewn llys ynadon ar gyhuddiadau eraill, ac roedd ar fechn茂aeth ar y pryd.

Yn ogystal, roedd Lewis yn cael ei ddedfrydu am dwyllo Ali a Fatima Ahmed, perchnogion bwytai Indiaidd ar Ynys M么n - cyhuddiad yr oedd o wedi pledio'n euog iddo yn flaenorol.

Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands wrth Lewis ei fod wedi "gweithredu'n anonest sawl gwaith dros gyfnod o bum mlynedd".

"Roeddech chi mor haerllug nes i chi gyflawni twyll y diwrnod wedi i chi fod yn y llys," meddai.

"Mae hynny'n gwneud pethau'n llawer gwaeth."

Ychwanegodd y barnwr fod Lewis yn "hollol anonest", a bod ei ddioddefwyr wedi cael eu twyllo.

"Dwi ddim yn gwybod a oes modd i chi adfer pan gewch chi eich rhyddhau - mae eich profiad blaenorol yn awgrymu nad oes modd," meddai.

Er ei fod wedi elwa o 拢234,000 o ganlyniad i'r twyll, dywedodd yr erlyniad mai dim ond 拢1 oedd ar gael i'w hawlio.