Carcharu protestwyr ar 么l difrod gwerth 拢1.2m i ffatri
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi cael eu carcharu ar 么l cael eu canfod yn euog o fod 芒 rhan mewn protest a achosodd ddifrod gwerth 拢1.2m i ffatri ym Mhowys.
Fe wnaeth Susan Bagshaw, 65, Morwenna Grey, 41, Ruth Hogg, 39, a Tristan Dixon, 34, achosi'r difrod i ffatri Teledyne Labtech yn Llanandras y llynedd.
Roedd y gr诺p yn credu bod y ffatri'n creu byrddau cylched ar gyfer dr么ns yn Israel.
Ond clywodd y llys nad oedd tystiolaeth bod y ffatri yn gyfleuster milwrol, a'i bod yn creu darnau ar gyfer peiriannau MRI ac offer radar.
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023
Cafodd y protestwyr eu harestio ar 么l y digwyddiad ar Barc Busnes Broadaxe yn y dref ym mis Rhagfyr llynedd.
Cafodd Hogg, artist o Aberystwyth ac ymgyrchydd Palesteinaidd, ei chanfod yn euog yn gynharach yn y mis o gynllwynio i achosi difrod troseddol.
Roedd Bagshaw, sydd o Gomins-coch, Grey, sydd o Fachynlleth, a Dixon, sydd o Huddersfield, eisoes wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad.
Ar adeg yr achos, fe glywodd y llys yng Nghaernarfon fod Hogg yn un o ddau brotestiwr a ddringodd i do'r ffatri a'i bod wedi torri ffenestri gwydr a drilio tyllau yn y to.
Mewn lluniau gafodd eu rhyddhau gan Wasanaeth Erlyn y Goron, mae'r protestwyr i'w gweld yn torri ffenestri'r ffatri ac yn peintio graffiti.
Fe wnaeth dau brotestiwr arall fynd mewn i'r ffatri a chwalu sgriniau cyfrifiaduron, chwistrellu paent a gosod grenadau mwg.
Cafodd baner yn cefnogi Palesteina ei rhoi ar draws ochr y ffatri.
Dywedodd yr erlynydd Elen Owen fod yr "ymosodiad wedi ei gynllunio'n broffesiynol" ac yn debyg i "ymosodiad terfysgol".
"Fe wnaethon nhw dargedu ffatri fach yng nghefn gwlad Cymru, oedd 芒 chysylltiadau gwan 芒 chwmn茂au arfau a hynny er mwyn sicrhau y cyhoeddusrwydd mwyaf," meddai.
'Difrod anllad'
Cafodd Hogg ei dedfrydu i 27 mis yn y carchar am ei rhan hi yn y difrod - gyda Bagshaw, Grey a Dixon yn cael eu carcharu am 23 mis yr un.
Wrth ddedfrydu dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod y gr诺p wedi achosi "difrod anllad" yn y ffatri.
Dywedodd hefyd bod "yna lefel uchel o gynllunio o flaen llaw gyda'r bwriad o greu lefel uchel o ddifrod".
"Does dim dwywaith gen i bod eich credoau am Balesteina ac Israel yn rhai diffuant. Dyw'r llys ddim yn mynegi barn ond mae gennych hawl i'ch credoau cyn belled eich bod yn gweithredu o fewn y gyfraith.
"Ond roedd eich gweithred yn cynnwys ymddygiad eithafol a thrais... Eich bwriad oedd sicrhau nad oedd y ffatri yn weithredol am gyn hired a phosib," ychwanegodd.