Canslo triniaeth canser y fron 'am fy mod i o Gymru'
- Cyhoeddwyd
Cafodd llawdriniaeth dynes o Bowys 鈥 oedd yn gorfod mynd i Loegr am driniaeth canser y fron 鈥 ei ganslo ar y funud olaf 鈥済an ei bod hi o Gymru鈥.
A hithau鈥檔 byw ger y ffin, cafodd Lowri Mai Williams ei chyfeirio at ysbytai yng nghanolbarth Lloegr am gyfres o driniaethau canser yn 2023.
Tra鈥檌 bod hi mewn gwely yn yr ysbyty yn aros am lawdriniaeth, dywedodd meddyg ei fod wedi鈥檌 ganslo.
鈥淣ath hi ddweud, 鈥榤i wyt ti'n byw yng Nghymru, yndwyt? Wel, gallwn ni ddim parhau 芒'r driniaeth oherwydd cyllideb',鈥 esboniodd Ms Williams ar bodlediad 1 mewn 2 大象传媒 Radio Cymru.
鈥淥鈥檔 i just yn iste' yna鈥檔 meddwl, 'ma鈥 hwn fel rhyw fath o hunllef'.鈥
Dywedodd llefarydd ar ran y GIG yn Lloegr nad oedd modd gwneud sylw ar achosion unigol, a'u bod yn croesawu adborth.
Uchelgais Bwrdd Iechyd Addysgol Powys yw darparu'r gofal gorau posib, medd llefarydd, gan ychwanegu nad oedden nhw am wneud sylw ar achosion unigol.
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd22 Mai
Yn 42 oed, cafodd Ms Williams o Foelfre ddiagnosis canser y fron ym mis Mawrth 2023.
鈥淥 ran y llwybr 鈥榙an ni鈥檔 mynd ar, 鈥榙an ni鈥檔 gorfod mynd i Shrewsbury a Telford Trust,鈥 meddai.
Ar 么l derbyn cemotherapi ym mis Mai, aeth hi i'r ysbyty yn Telford i gael llawdriniaeth i dynnu ei nodau lymff yn yr hydref.
鈥淥ddan ni 鈥榙i mynd mewn yn y bore, dim bwyta ar y nos Sul wrth baratoi.
"Cyrraedd yna 鈥 gown ymlaen, nhw鈥檔 rhoi鈥檙 marker pens [ar ei chorff]. Dyma ni鈥檔 barod i fynd.鈥
Ond yna daeth meddyg i eistedd ar ei gwely a dweud na fyddai鈥檙 llawdriniaeth yn digwydd.
Roedd meddyg arall, a oedd fod i roi mastectomi i Ms Williams rai wythnosau鈥檔 ddiweddarach yn Birmingham, wedi sylwi ei bod hi o Gymru ac wedi dweud nad oedd cyllid i'w thrin, medd Ms Williams.
鈥淎 ti鈥檔 meddwl, maen nhw鈥檔 gwybod bo鈥 fi鈥檔 byw yng Nghymru o鈥檙 dechrau.
鈥淒yna sut oeddan nhw鈥檔 geirio fo 鈥 am taw鈥檙 ffaith bo鈥 fi鈥檔 byw yng Nghymru. Mae rhywbeth yn corddi yno' ti wedyn.
鈥淒yma fi wedyn yn dechrau crio a chrio yn meddwl, 鈥榙w i ddim yn si诺r sut i ymateb i hyn鈥.鈥
Ychwanegodd Ms Williams na chafodd unrhyw opsiwn arall ei gynnig iddi, fel talu鈥檔 breifat am y driniaeth.
Cafodd y llawdriniaeth y diwrnod hwnnw ei ganslo, yn ogystal 芒鈥檙 mastectomi ac adluniad (reconstruction) oedd i fod i ddigwydd yn ddiweddarach.
'Popeth yn dod lawr i bres'
Mae Ms Williams o鈥檙 farn mai 鈥渄adl鈥 dros bwy fyddai'n talu am ei thriniaeth oedd yn gyfrifol am ei phrofiad 鈥 rhwng ei bwrdd iechyd lleol ym Mhowys, a鈥檙 ymddiriedolaeth iechyd yn Lloegr oedd wedi bod yn ei thrin.
鈥淢ae popeth yn dod lawr i bres ar ddiwedd y dydd, sy鈥檔 anffodus.
鈥淒ylse bod y politics yma ar y top ym Mwrdd Iechyd Powys wedi trefnu."
Treuliodd Ms Williams a鈥檌 phartner dridiau yn gwneud 鈥73 galwad ff么n鈥 er mwyn datrys y sefyllfa, gan gynnwys i gynghorydd lleol ac i ysbyty yn Abertawe i ofyn am driniaeth yn fanno.
鈥淵n y diwedd, nath y GPs yn Llanfyllin helpu fi allan,鈥 meddai.
Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Addysgu Powys drefnu bod modd i Ms Williams barhau 芒鈥檌 thriniaeth wythnos yn ddiweddarach.
Ond mae Ms Williams am godi ymwybyddiaeth o鈥檌 phrofiad, gan ddweud ei bod hi'n ymwybodol o ddwy fenyw arall o'r ffin sydd 芒 phrofiadau tebyg.
"Ma鈥 fe鈥檔 rhywbeth sydd yn broblem pan ma' fe鈥檔 mynd allan o Gymru.
"Ma' fel postcode lottery bron - ma' hwn yn ddifrifol.鈥
Dywedodd llefarydd ar ran y GIG yn Lloegr: "Ni allwn wneud sylw ar achosion unigol, ond ry'n ni'n croesawu pryderon a chwynion fel adborth gwerthfawr fydd yn ein helpu i ddysgu o'ch profiadau a gwella'r gwasanaethau ry'n ni'n eu comisiynu."
Yn 么l llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgol Powys, eu huchelgais yw "sicrhau'r gofal gorau posib i'n holl gleifion".
"Ond os nad yw eich triniaeth a'ch gofal yn digwydd fel yr oeddech chi wedi'i ddisgwyl, ry'n ni'n eich hannog i gysylltu 芒'n T卯m Pryderon a Phrofiadau Cleifion er mwyn i ni fedru ymchwilio i'ch profiadau, eu datrys lle'n bosib, a sicrhau bod y GIG a'n partneriaid yn gallu dysgu ohonynt.
"Rydyn ni'n cymryd ein cyfrifoldeb i ddiogelu preifatrwydd ein cleifion yn ddifrifol iawn, felly ni fyddai'n addas i ni wneud sylw ar achosion unigol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Addysgol Powys ydy "sicrhau bod trefniadau i bobl leol dderbyn triniaeth, boed hynny yng Nghymru neu yn Lloegr," a bod dim modd gwneud sylw ar achos unigol.