大象传媒

Busnesau'n poeni am effaith cau trosffordd Conwy

Ceir ar yr A547
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd gwaith ar drosffordd yr A547 rhwng Cyffordd Llandudno a Chonwy ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau yng Nghonwy yn poeni am effaith cau un o brif ffyrdd y dref am dros bythefnos ym mis Mehefin.

Dechreuodd gwaith ar drosffordd yr A547 rhwng cyffordd Llandudno a Conwy ym mis Ebrill.

Ond mae Cyngor Conwy bellach yn dweud bod rhaid cau'r ffordd am 16 diwrnod o 19 Mehefin.

Mae Siambr Fasnach Conwy yn dweud na fu ymgynghoriad 芒 busnesau, ac y bydd y gwaith yn cael effaith negyddol iawn ar y dref.

Mae Cyngor Conwy'n dweud bod cau'r ffordd yn hanfodol er mwyn cyflawni'r gwaith a sicrhau diogelwch y gweithwyr.

Misoedd prysuraf y dref

Yn 么l y cyngor bydd cau'r drosffordd yn golygu na fydd sawl llwybr bws yn rhedeg trwy Gonwy am gyfnod, ond y bydd gwasanaeth bws gwennol yn cael ei drefnu i Gyffordd Llandudno.

Ond mae rhai perchnogion busnes yn poeni nad yw hyn yn ddigonol er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn parhau i ddod i'r dref.

Dywedodd Helen Bundy, sy'n rhedeg siop yng nghanol Conwy: "Mehefin a Gorffennaf yw'r prif fisoedd ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol sy'n dod ar fysus.

"Mae wedi cymryd amser iddynt ddychwelyd, ond nawr mae'n digwydd, ac maen nhw'n fisoedd hynod o bwysig i fusnesau yn y dref.

"Mae'n amlwg rhaid gwneud y gwaith atgyweirio, ond pam dewis ei wneud yn y misoedd prysuraf?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Russel Erwood mae'r gwaith eisoes wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau

Yn 么l Russel Erwood, cadeirydd Siambr Fasnach Conwy, mae'r gwaith ar y drosffordd eisoes wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau'r dref.

"Mae'r gwaith presennol wedi cael effaith negyddol iawn ar fusnesau Conwy gyda rhai yn adrodd colledion o 50% o'i gymharu 芒'r un mis y llynedd," dywedodd.

"Ni chafodd y siambr fasnach na busnesau eu hymgynghori, a dwi'n credu y dylai hynny fod wedi digwydd am mai ni fydd yn cael ein heffeithio fwyaf gan y penderfyniad.

"Heb unrhyw wasanaethau'n cael eu darparu er mwyn helpu ymwelwyr i gyrraedd Conwy, dydw i ddim yn gor-ddweud i awgrymu y gall hyn gael effaith drychinebus ar fusnesau annibynnol Conwy."

Prosiect 'unwaith mewn oes'

Cafodd y drosffordd ei hadeiladu yn y 1960au hwyr, ac yn 么l y cyngor mae'r gwaith adnewyddu yn brosiect unwaith mewn oes i gadw'r strwythur mewn cyflwr da.

Dywedodd y cynghorydd Goronwy Edwards, sy'n gyfrifol am ffyrdd ar y Cabinet: 鈥淩ydym yn deall y bydd cau'r drosffordd yn achosi anghyfleustra sylweddol, ond dyma'r unig ffordd i gwblhau'r gwaith adnewyddu.

"Hoffwn fynegi fy niolch i bawb a effeithiwyd am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth.

"Mae disgwyl i'r gwaith cael ei gwblhau yn gynharach nag y cynlluniwyd."

Pynciau cysylltiedig