大象传媒

'Gobeithio' gwella perfformiad ambiwlansys mewn 12 mis

AmbiwlansysFfynhonnell y llun, EPA
  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd oedi i ambiwlansys yn lleihau yn y 12 mis nesaf.

Roedd Carol Shillabeer yn siarad mewn cwest i farwolaeth menyw a arhosodd bron i 23 awr am ambiwlans yn 2021.

Cofnododd y crwner gasgliad o farwolaeth ddamweiniol yn achos Gwyneth Jones, 84 oed o Dreffynnon yn Sir y Fflint, fu farw fis ar 么l dioddef cwymp a arweiniodd at waedu ar ei hymennydd.

Roedd uwch reolwyr y Gwasanaeth Iechyd yn rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad, ac yn dweud eu bod yn gweithio'n galed i newid y system a lleihau oedi ambiwlansys ac mewn adrannau brys ysbytai.

Ffynhonnell y llun, Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Carol Shillabeer mae'r cwest wedi "tynnu sylw at y problemau ym maes gofal brys"

Roedd Gwyneth Jones yn byw yng nghartref gofal Llys Gwenffrwd yn Nhreffynnon, ble daeth staff o hyd iddi ar lawr ei hystafell wely ar fore 25 Hydref 2021.

Galwyd am ambiwlans, ond roedd hi鈥檙 bore canlynol cyn iddo gyrraedd, 22 awr a 33 munud wedi'r alwad wreiddiol.

Cafodd Mrs Jones ei chludo i'r ysbyty, ei harchwilio a'i rhyddhau, ond yn 么l yn y cartref gofal dechreuodd ddangos symptomau tebyg i rywun oedd wedi cael str么c.

Cafodd ei chludo yn 么l i'r ysbyty, a daeth staff meddygol i'r canlyniad ei bod wedi dioddef gwaedu rhwng ei hymennydd a'i phenglog.

Er iddi dderbyn triniaeth, bu farw fis yn ddiweddarach.

'Pwysau'n parhau'

Yn y cwest yn Rhuthun, galwodd y crwner brif weithredwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i roi tystiolaeth am yr oedi wrth gael pobl i'r ysbyty a chael triniaeth.

Dywedodd y crwner John Gittins ei fod wedi cynnal sawl cwest lle'r oedd ambiwlansys wedi bod yn hir yn cyrraedd, a'i fod am edrych yn fanylach ar y broblem.

Dywedodd Jason Killens o'r Gwasanaeth Ambiwlans bod nifer y criwiau sydd ar gael i ymateb i alwadau brys bellach yn fwy nag erioed, yn ogystal 芒 nifer y cerbydau ambiwlans.

Ond dywedodd: "Mae'r pwysau'n parhau - ar gyfartaledd, rydyn ni'n colli 20-25% o'n gallu bob mis oherwydd problemau wrth drosglwyddo pobl i adrannau brys ysbytai.

"Nid mwy o ambiwlansys yw'r ateb - bydden nhw ond yn ymuno 芒 chiwiau hirach y tu allan i ysbytai.

"Mae'n rhaid i ni hefyd reoli mwy o bobl yn y gymuned ac osgoi mynd 芒 mwy o bobl i'r ysbyty yn y lle cyntaf."

'Gweld gwelliant' ymhen 12 mis

Dywedodd Ms Shillabeero fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mai'r broblem mewn ysbytai oedd rhyddhau pobl ar 么l iddyn nhw gael eu trin, pan oedd dal angen gofal arnyn nhw yn rhywle arall, fel cartref preswyl neu gan ofalwyr sy'n ymweld.

Dywedodd bod y bwrdd iechyd yn gweithio gydag adrannau gwasanaethau cymdeithasol y cyngor i wella problemau yn y maes yma.

"Pe bai modd lleihau nifer y diwrnodau o oedi wrth ryddhau pobl o 10% yn unig, byddai'n gwneud gwahaniaeth go iawn", dywedodd wrth y cwest.

"Rwy'n gobeithio, ymhen 12 mis, na fydd pethau wedi gwaethygu, ond rwy'n wirioneddol gobeithio y byddwn yn gweld gwelliant dros y flwyddyn nesaf."

Mewn datganiad ar 么l y cwest, ychwanegodd: "Rwy'n cydymdeimlo'n ddiffuant unwaith eto 芒 theulu Mrs Jones.

"Mae'r cwest hwn wedi bod o gymorth mawr i dynnu sylw at y problemau ym maes gofal brys a sut mae'n symptom o dagfeydd yn y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r holl bartneriaid, gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a phartneriaid eraill yn y sector gyhoeddus, i weithio'n ddoethach a chyflymu鈥檙 broses o rhyddhau cleifion sy'n feddygol iach i adael ein hysbytai.

"Bydd hyn yn helpu i leihau'r pwysau ar adrannau brys a gwasanaethau ambiwlans.鈥