大象传媒

Y flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth cwiar yn Gymraeg

Dr Gareth Jones-Evan yn eistedd yn ei swyddfa
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Gareth Evans-Jones, golygydd 'Curiadau'

  • Cyhoeddwyd

Mis Gorffennaf fe fydd Barddas yn cyhoeddi blodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+; y flodeugerdd gyntaf o鈥檌 fath yn y Gymraeg.

Bydd Curiadau yn cynnwys gwaith gan lenorion adnabyddus, sgwenwyr profiadol a lleisiau newydd sy鈥檔 cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf.

Y llenor ac academydd Dr Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor aeth 芒鈥檙 syniad at Barddas wedi iddo gael sgwrs gydag un o olygyddion y wasg, Alaw Mai Edwards, ar 么l sesiwn hyfforddi gyda Chyngor Llyfrau Cymru.

鈥淒daeth y syniad llynedd, yn rhannol oherwydd Llyfrau Lliwgar y clwb llyfrau LHDTC+ [Cymraeg] cyntaf yng Nghymru sydd bellach yn cwrdd ym Mangor ac yng Nghaerdydd.

"Ac mi oedden ni wedi penderfynu bod yn rhaid cael testun yn Gymraeg a thestun yn Saesneg bob yn ail oherwydd prinder deunydd Cymraeg 鈥 testunau, llyfrau, cerddi cwiar yn Gymraeg.

"A wedyn meddwl, 'dan ni鈥檔 licio bob math o flodeugerddi yng Nghymru 鈥 Hoff Gerddi Serch Cymru, Hoff Gerddi Natur Cymru, Blodeugerdd Barddas, bob math o bethau 鈥 ond doedd 鈥榥a ddim blodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+ yn Gymraeg.鈥

Ffynhonnell y llun, Barddas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dylunwyd y gyfrol gan Gruffudd Sion

Ond gyda thestunau mor brin, sut felly y byddai dod 芒 blodeugerdd at ei gilydd?

Eglurodd Gareth, sydd yn llenor ei hun: 鈥淥鈥檔 i鈥檔 awyddus i drio cynnwys gwaith cyhoeddiedig a gwaith newydd hefyd.

"Yr unig 鈥榓mod鈥 fel y cyfryw oedd eu bod nhw鈥檔 ddarnau gan bobl LHDTC+. O ran y darnau cyhoeddiedig, wrth gwrs, mae鈥檔 anodd i ni heddiw 'ma i ddweud be鈥 oedd rhywioldeb rhywun gosa bod o鈥檔 adnabyddus felly.

"Gan hynny, o ran testunau sydd wedi鈥檜 cyhoeddi eisoes dim ond rhyw hanner dwsin o destunau sydd 'na a dim ond dau destun gan sgwennwyr sydd bellach wedi marw.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cranogwen a Prosser Rhys: yr unig ddau lenor sydd wedi marw sy'n ymddangos yn y gyfrol

鈥淥nd roedd eisiau sicrhau sgwennu newydd ac o鈥檔 i鈥檔 awyddus cael cymysgedd o ddeunyddiau: yn gerddi, yn rhyddiaith, yn ddrama, yn rhywbeth yn y canol, yn nofelau graffig hefyd.

"Ond hefyd eto, cynrychiolaeth eang o awduron, yn sgwenwyr profiadol ac yn sgwenwyr newydd.

"Dw i鈥檔 gwybod ei fod o鈥檔 肠濒颈肠丑茅 i鈥檞 ddweud bellach, bod gwerth ym mhob darn 'lly, ond mae 'na. Mae 'na safon eithriadol yn y darnau i gyd ddaeth i law ac roedd hi鈥檔 hyfryd cael hynny a chael cynrychiolaeth o brofiadau, lleisiau, a gwahanol arddulliau o sgwennu.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nia Morais yn llenor o Gaerdydd sydd wedi cyfrannu i gyfrol Curiadau

Dau o鈥檙 awduron sydd wedi cyfrannu eu gwaith i鈥檙 gyfrol yw Nia Morais a Leo Drayton.

Dywedodd Nia, fydd yn camu mewn i r么l Bardd Plant Cymru fis Medi:

鈥淢ae鈥檔 meddwl lot i mi fod yn rhan ohoni achos fi鈥檔 meddwl bod e鈥檔 really bwysig i ni gael rhywbeth yn yr iaith Gymraeg i ddathlu pobl cwiar, pobl hoyw.

"Ac mae鈥檔 neis i brofi ein bod ni 'ma, a chael y rhyddid i sgwennu am be鈥 ni moyn sgwennu am yn y Gymraeg.鈥

Cynnig rhywbeth newydd

Roedd Leo, sydd hefyd o Gaerdydd ac un un o gyd-awduron cyfres lyfrau arloesol 鈥榊 Pump鈥, yn cydweld.

鈥淔i鈥檔 credu bod rhywbeth fel Curiadau mor bwysig oherwydd mae鈥檔 rhoi platfform i brofiadau newydd gael eu clywed.

"Dwi wedi ysgrifennu am rhywbeth dwi heb weld yn Gymraeg byth o鈥檙 blaen. Fi鈥檔 credu bod e鈥檔 really cyffrous i allu clywed straeon newydd gan bobl newydd.鈥

鈥淓nw鈥檙 darn dwi wedi ei sgwennu ydy Yr Apwyntiad Cyntaf: Drama Mewn Dwy Ran.

"Mae鈥檔 un gerdd o ddau safbwynt gwahanol am y profiad o berson traws yn mynd i鈥檙 apwyntiad cyntaf gyda seicolegydd neu ddoctor. Ac mae鈥檔 rhoi bach o fewnwelediad i bobl sydd ddim yn gwybod beth yw鈥檙 broses yna fel.

"A fi鈥檔 teimlo bod e鈥檔 really gwir, mae鈥檔 eitha鈥 dwys, smo fe鈥檔 hapus iawn, ond mae fe鈥檔 really gwir. O鈥檔 i鈥檔 teimlo bod e鈥檔 really bwysig i ddangos hwnna i bobl sydd ddim yn deall beth mae pobl traws yn mynd trwyddo jyst er mwyn dechrau鈥檙 cam cyntaf i drawsnewid.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Leo Drayton

Ond yn ogystal ag ysgrifennu yn onest ac agored am ei brofiad, yr hyn mae Leo鈥檔 gobeithio amdano yw fod pobl ifanc yn cael profiad mwy amrywiol o lenyddiaeth Gymraeg nag a gafodd ef yn yr ysgol:

鈥淩wy鈥檔 gobeithio fydd hwn yn rhoi cyfle, yn enwedig mewn ysgolion, i blant ifanc astudio pethau newydd.

"Pan wnes i astudio yn yr ysgol, 'nes i 'neud Cymraeg AS, a roedd y beirdd i gyd yn h欧n, yn sort of hanesyddol eitha鈥 debyg i鈥檞 gilydd 鈥 yn ysgrifennu am yr un pethau.

"So, fi yn gobeithio bydd hwn yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc sy鈥檔 astudio drwy gyfrwng y Gymraeg i roi ffocws ar bethau newydd a rhoi rhywbeth fwy diddorol i siarad amdano yn y dosbarth.鈥

Gallu bodoli yn niwylliant Cymru

Mae鈥檙 hyn fydd cyfrol fel hon yn ei olygu i bobl ifanc yn amlwg yn bwysig i Nia hefyd,

鈥淒w i ddim yn un i feddwl y dylen ni gadw鈥檔 traddodiadau ni yn y gorffennol ond fi鈥檔 credu bod 'na le i鈥檞 gymysgu fe gyda stwff newydd a gweld be鈥 arall ni鈥檔 gallu dod i fewn [i鈥檙 traddodiad Cymreig].

"Mae lot o stwff wedi bod [ar y cyfryngau cymdeithasol] am yr Urdd a phabell Cwiar na Nog a stwff fel 'na a dw i鈥檔 credu bod e鈥檔 dda i ni gefnogi pethau fel Cwiar na Nog a dangos ein bod ni yma, a鈥檔 bod ni鈥檔 gallu bodoli yn yr iaith Gymraeg a鈥檔 bod ni鈥檔 rhan o鈥檙 diwylliant.鈥

Ac mae Gareth yn brysio i bwysleisio ei bod hi鈥檔 gyfrol i bawb.

鈥淢ae hi ar gyfer pawb oherwydd yn ei hanfod trafod profiadau mae pobl yn brofi mae hi.

"Boed rhywun yn perthyn i鈥檙 gymuned LHDTC+ neu beidio 'dan ni gyd yn bobl. 'Dan ni gyd yn teimlo, 'dan ni gyd yn mynd drwy鈥檙 felin emosiynol, 'dan ni gyd yn cael bob math o bethau ciami ond pethau gwych hefyd yn digwydd yn ein bywydau a mae modd uniaethu.

"Nid o reidrwydd uniaethu 芒鈥檙 sefyllfa ond mae modd gweld rhywbeth yn bob dim. Mae鈥檙 un fath a鈥檙 syniad; ydy nofel sydd wedi cael ei sgwennu gan ddynes am fod yn fam 鈥 ydy honno ar gyfer dynion?

"Wel, mi fedar dynion ei darllen hi er nad ydy dynion cis yn medru geni plentyn fedran nhw dal werthfawrogi hynny. Ac mae鈥檙 un fath am y gyfrol yma, mae hi ar gyfer pawb. Does 'na ddim ffiniau ar y cyfryw. Mewn difri鈥 trio goresgyn unrhyw ffiniau mae hi yn y b么n.鈥

Disgrifiad,

Cafodd Cymru Fyw sgwrs 芒'r golygydd a dau gyfranydd i'r gyfrol arloesol hon.

鈥淢ae鈥檔 werth nodi y buon ni鈥檔 meddwl am hir am deitl i gyfleu y fath amrywiaeth," meddai Gareth.

"Curiadau aethon ni amdano鈥檔 diwedd oherwydd mae鈥檙 gyfrol fel curiadau c芒n. Ac mae 'na bob math o guriadau gwahanol, mewn ffordd. C芒n bolyffonig go iawn.

"Ond mae hefyd yn cydnabod y curiadau negyddol hefyd mae鈥檙 gymuned a phobl LHDTC+ yn brofi 鈥 yn guriadau corfforol, geiriol, meddyliol. Ond hefyd yn ffordd o ddathlu 'reit, dyma鈥檙 curiadau cwiar Cymraeg鈥 a fydd gobeithio yn arwain at fwy o ganeuon o鈥檙 fath.鈥

Bydd Gareth a chyfranwyr eraill yn trafod mwy am Curiadau yng ng诺yl Tafwyl ddydd Sul 16 Gorffennaf.