Torri person yn rhydd o gerbyd wedi gwrthdrawiad A470

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y groesffodd ger Bronllys

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth t芒n dorri person yn rhydd o gerbyd yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ym Mhowys fore Iau.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd - un oedd yn cario trelar - ar y groesffordd ger Bronllys am 07:30.

Dywedodd y gwasanaeth t芒n fod person yn sownd yn un o'r cerbydau ac y bu'n rhaid ei dorri o'r cerbyd.

Cafodd y claf ei gludo i'r ysbyty, gyda'r heddlu'n dweud nad ydyn nhw'n credu fod ei anafiadau'n rhai sy'n peryglu bywyd.

Bu'r ffordd ar gau am tua phedair awr cyn iddi ailagor am 11:40.