大象传媒

Caernarfon: Dynes wedi marw tra yn nalfa'r heddlu

Pencadlys yr heddlu yng NghaernarfonFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw'r ddynes ym mhencadlys rhanbarthol yr heddlu yn ardal Maesincla

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi marw tra yn y ddalfa yng Nghaernarfon, yn 么l Heddlu Gogledd Cymru.

Dywed y llu bod y ddynes yn ei 40au ac wedi cael ei tharo'n wael cyn marw ychydig cyn 17:30 brynhawn Gwener.

Roedd y ddynes wedi bod yn y ddalfa ers prynhawn Iau, yn 么l y Dirprwy Brif Gwnstabl, Nigel Harrison.

Dywedodd bod y llu, "fel sy'n ofynnol yn yr amgylchiadau hyn", wedi cyfeirio'u hunain i'r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) "sydd nawr yn cynnal ymchwiliad annibynnol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y ddynes wedi bod yn y ddalfa ers ddydd Iau

Ychwanegodd Mr Harrison: "Mae ein meddyliau gyda ei theulu, sy'n cael cefnogaeth swyddogion arbenigol, a phawb sydd wedi eu heffeithio.

"Ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd tra bod ymchwiliad annibynnol IOPC, yn gywir, yn mynd rhagddo."

Pynciau cysylltiedig