大象传媒

拢2bn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru eleni

Menyw a dyn yn edrych ar filFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Gallai pobl yng Nghymru fod gannoedd o bunnoedd ar eu hennill petaen nhw鈥檔 hawlio鈥檙 budd-daliadau maen nhw鈥檔 gymwys i鈥檞 cael.

Yn 么l cwmni data Policy in Practice mae mwy na 拢2bn heb ei hawlio yng Nghymru eleni.

Fe lwyddodd t卯m Cyngor ar Bopeth yng Nghaerffili helpu dau bensiynwr i hawlio gwerth 拢18,000 o fudd-dal y flwyddyn nad oedden nhw鈥檔 sylweddoli eu bod yn gymwys amdano.

Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau fod pobl sy'n gymwys am fudd-daliadau yn gorfod gwneud cais amdano, a'u bod yn hyrwyddo pa fudd-daliadau sydd ar gael i bobl.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd t卯m Rhys Lewis i sicrhau budd-daliadau gwerth 拢18,000 y flwyddyn i un cwpl oedrannus

Mae Rhys Lewis o Cyngor ar Bopeth Caerffili a'i d卯m wedi gweld 鈥渃ynnydd mawr鈥 yn nifer y bobl sy鈥檔 dod atyn nhw am help.

鈥淢ae mwy o bobl angen dod aton ni i wneud y gorau o鈥檜 hincwm," meddai.

"Mae鈥檔 rhywbeth ni鈥檔 gwneud yn aml, yn enwedig gyda budd-daliadau."

Yn 么l Policy in Practice, mae o leiaf 拢76m o fudd-daliadau a chefnogaeth ariannol arall nad yw鈥檔 cael ei hawlio yn ardal Caerffili a Blaenau Gwent.

Mae鈥檙 sefydliad yn amcangyfrif bod 拢23bn o bunnau heb gael ei hawlio ym Mhrydain eleni.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rachael Walker yw cyfarwyddwr polisi ac ymchwil Policy in Practice

Ond mae cyfraddau uwch o bobl sy鈥檔 methu hawlio鈥檜 holl fudd-daliadau yng Nghymru, lle mae mwy o rwystrau i hawlio, yn 么l Rachael Walker, cyfarwyddwr polisi ac ymchwil Policy in Practice.

鈥淓fallai bod mwy o dlodi, efallai bod poblogaeth h欧n ac mae r么l fawr gan heriau digidol i鈥檞 chwarae yn hyn,鈥 meddai.

Ychwanegodd bod nifer yr ardaloedd gwledig yng Nghymru yn golygu ei bod hi鈥檔 fwy anodd i bobl gael y gwasanaethau fyddai鈥檔 eu helpu i gael cymorth.

Mae ystadegau Policy in Practice yn awgrymu bod o leiaf 拢2.06bn o fudd-daliadau a chymorth eraill yn mynd heb eu hawlio yng Nghymru eleni.

Mae鈥檔 cynnwys budd-daliadau Prydain gyfan fel Credyd Cynhwysol, yn ogystal 芒 chefnogaeth sy鈥檔 cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru a鈥檌 weinyddu gan lywodraeth leol 鈥 fel cymorth gyda threth cyngor.

Mae hefyd yn cynnwys ffyrdd o ostwng costau am fod derbyn rhai budd-daliadau yn eich gwneud yn gymwys am ostyngiadau amrywiol ar filiau fel d诺r a chyswllt 芒鈥檙 we.

'Dim pres ar 么l'

Mae Tal Michael a th卯m Cyngor ar Bopeth Gwynedd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl maen nhw鈥檔 eu helpu hefyd.

鈥淏e' 'da ni鈥檔 gweld yn rhy aml y dyddiau yma yw sefyllfa lle hyd yn oed os 鈥榙a chi ond yn edrych ar y gwariant sydd yn angenrheidiol - dim byd positif i fwynhau bywyd, dim ond y stwff angenrheidiol - does 鈥榥a ddim pres ar 么l ar ddiwedd y mis,鈥 meddai.

鈥淢ae pobl yn stryglo ond dy鈥檔 nhw ddim wedi gweld bod cymorth ar gael iddyn nhw.

"Er enghraifft, credyd pensiwn. Mae hynny wedi helpu lot o bobl sydd hefo incwm isel iawn.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淢ae pobl yn stryglo ond dy鈥檔 nhw ddim wedi gweld bod cymorth ar gael iddyn nhw," medd Tal Michael

Os yw mwy o bobl yn hawlio budd-daliadau, mae modd gostwng y pwysau ar wasanaethau eraill, yn 么l Rachael Walker.

鈥淩ydyn ni鈥檔 gwybod am y cyswllt rhwng tlodi, incwm a iechyd ers blynyddoedd,鈥 meddai.

鈥淢ae pensiynwr sy鈥檔 hawlio credyd pensiwn yn llai tebygol o alw ar y gwasanaethau cymdeithasol am eu bod nhw鈥檔 gallu gwresogi eu tai.

鈥淎c wrth edrych ar blant, ry鈥檔 ni鈥檔 gwybod bod plant yn llwyddo yn yr ysgol, eu hiechyd yn gwella a鈥檜 pwysau鈥檔 gostwng pan ry鈥檔 ni鈥檔 sicrhau bod oedolion yn hawlio鈥檜 budd-daliadau鈥檔 llawn.鈥

Ond gallai鈥檙 ffigwr o 拢2.06bn fod yn rhy isel, am nad yw鈥檔 cynnwys budd-daliadau anabledd.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod "yn hyrwyddo budd-daliadau"

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: 鈥淢ae ein gwladwriaeth les yn cynnal miliynau o bobl bob blwyddyn ac mae'r rheiny sy鈥檔 gymwys am fudd-dal penodol fel Credyd Cynhwysol yn gorfod gwneud cais amdano.

鈥淩ydym yn hyrwyddo budd-daliadau trwy ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus ac yn cyfrannu at gyllido鈥檙 gwasanaeth Cymorth i Hawlio mae Cyngor ar Bopeth yn ei ddarparu i gefnogi pobl i hawlio.鈥

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae gwneud y mwyaf o incwm cartrefi yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae鈥檔 hymgyrch Yma i Helpu yn annog pobl i gysylltu gyda Advicelink Cymru a 鈥楬awliwch yr hyn sy鈥檔 ddyledus i chi鈥.

鈥淩ydym yn cael canlyniadau da gyda鈥檔 cynlluniau i wneud y gorau o incwm yng Nghymru.

"Fodd bynnag, petai Llywodraeth y DU yn arwain yn strategol ar ymgyrch genedlaethol benodol i hawlio budd-daliadau, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, mynediad i gyngor a chefnogaeth a threfniant rhannu data, byddai鈥檔 gwella鈥檙 sefyllfa ar draws Cymru a鈥檙 DU.鈥

Ble i fynd am help

Os ydych chi鈥檔 meddwl eich bod yn gymwys am gymorth neu help gyda鈥檆h incwm, dyma rai llefydd i fynd am gyngor:

  • Mae'r yn awgrymu sawl linc am gyngor rhad ac am ddim, di-enw ac annibynnol gan elusennau;

  • Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu llinell gyngor cyfrinachol .

Pynciau cysylltiedig