Arweinydd newydd i'w ethol ym mis Medi, medd Llafur
- Cyhoeddwyd
Bydd arweinydd newydd gan Lafur Cymru erbyn canol mis Medi, cyhoeddodd y blaid ddydd Sadwrn.
Rhaid i aelodau'r blaid yn y Senedd benderfynu pwy maen nhw am gefnogi yn yr ornest erbyn ddydd Mercher.
Dyw'r un AS Llafur wedi datgan eu bwriad i ymgeisio hyd yn hyn.
Fe wnaeth corff llywodraethu'r blaid gwrdd fore Sadwrn i gadarnhau amserlen y broses.
Daw'r ras arweinyddiaeth wedi i'r Prif Weinidog Vaughan Gething ymddiswyddo yr wythnos ddiwethaf, wedi pedwar mis yn y swydd.
Fe fydd Vaughan Gething yn parhau fel arweinydd y blaid a phrif weinidog nes hynny.
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
Sut fydd yr arweinydd newydd yn cael ei ethol?
Er mwyn cymryd rhan yn y ras, rhaid i ymgeisydd gael ei enwebu gan o leiaf pum aelod o'r blaid yn Senedd Cymru - neu gan ddau aelod a nifer o grwpiau Llafur lleol.
Bydd modd i aelodau o'r Senedd enwebu ymgeiswyr o 19:00 nos Sadwrn hyd at 12:00 ddydd Mercher.
Aelodau Llafur Cymru a grwpiau cysylltiedig, fel yr undebau llafur, fydd yn gallu bwrw pleidlais.
Bydd y pleidleisio'n digwydd rhwng 22 Awst ac 13 Medi, gyda'r canlyniad i'w gyhoeddi ar 14 Medi.
Bydd Vaughan Gething yn cymryd rhan mewn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog am y tro olaf ar 17 Medi.
Y diwrnod canlynol, bydd ei olynydd yn camu i'r swydd yn ffurfiol.
Bydd y broses hon dipyn yn gynt na'r ras ddiwethaf - pan gafodd Vaughan Gething ei ethol - a ddigwyddodd rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.
Daeth y cyfarfod rhithiol fore Sadwrn ddyddiau wedi i Mr Gething gyhoeddi bwriad i gamu'n 么l wedi i bedwar aelod blaenllaw o'i gabinet ymddiswyddo.
Fe gafodd un ohonyn nhw, Jeremy Miles, ei drechu o drwch blewyn gan Mr Gething yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf yn gynharach eleni.
Mae 大象传媒 Cymru wedi cael gwybod bod Mr Miles yn debygol o ymgeisio eto, ac ar ddeall ei fod eisoes 芒 chefnogaeth digon o'i gyd-aelodau i sicrhau lle ar y papur pleidleisio eto.
Fodd bynnag, mae cefnogwyr Mr Gething wedi dweud na allai Mr Miles uno'r gr诺p Llafur ym Mae Caerdydd.
Mae yna gred bod yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates yn ystyried ymuno 芒'r ras, ac mae'r Ysgrifennydd Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies a'r Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan hefyd yn cael eu crybwyll fel ymgeiswyr posib.
Mae yna alwadau am ras arweinyddiaeth lawn i ddewis yr arweinydd nesaf yn hytrach na choroni - cam a allai fod yn un "gathartig" i'w blaid, ym marn rhagflaenydd Mr Gething, Mark Drakeford.
Ychwanegodd y cyn-brif weinidog y byddai'n "dymuno'n fawr" i fenyw fod ymhlith yr ymgeiswyr.
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
Yr her i bwy bynnag sy'n arwain y blaid nesaf fydd ceisio uno hollt ymhlith y gr诺p Llafur yn y Senedd.
Mae rhaniadau wedi datblygu yn sgil sawl sefyllfa ddadleuol ers dechrau cyfnod Mr Gething fel prif weinidog.
Daeth dan bwysau cynyddol ynghylch penderfyniad i dderbyn rhodd o 拢200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan fusnes troseddwr amgylcheddol.
Fe gododd ffrae wedyn dros ei benderfyniad i ddiswyddo aelod o'i lywodraeth wedi i negeseuon gr诺p trafod ar-lein gael eu rhannu gyda'r cyfryngau.
Dadleuol hefyd oedd ei benderfyniad i fwrw ymlaen yn ei swydd er iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder ynddo yn y Senedd.
Mewn datganiad wrth ymddiswyddo ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething ei fod wedi gobeithio y byddai cyfnod o "ailadeiladu ac adnewyddu" yn ystod toriad yr haf ond ei fod bellach wedi sylweddoli "nad yw hynny'n bosib".
Ddydd Iau, fe ddywedodd wrth 大象传媒 Cymru fod rhai pobl heb fod "yn barod i dderbyn canlyniad [y ras arweinyddiaeth ddiwethaf] gyda mi fel yr arweinydd".