'Dwi'n nerfus' - Miloedd yn paratoi at arholiadau'r haf
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o ddisgyblion yn paratoi ar gyfer dechrau arholiadau'r haf ac am y tro cyntaf ers 2019 does yna ddim mesurau arbennig i adlewyrchu effaith y pandemig.
Yn eu plith mae Cadi a Cadi o Wynedd - dwy ffrind gyda'r un enw sy'n gwneud sawl arholiad eleni cyn gwneud mwy o bapurau TGAU flwyddyn nesaf.
Mae Cadi, 14, eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith cwrs Saesneg a nawr yn adolygu ar gyfer yr arholiadau.
"Dwi鈥檔 sgwennu nodiadau a wedyn sbio drostyn nhw, darllan drostyn nhw loads a ella na鈥檌 roid o ar bapur eto i drio cofio nhw neu wna i sgwennu nhw lawr a sbio drostyn nhw mewn dipyn o amsar wedyn."
I ymlacio mae'n "gwrando ar fiwsig, neu mynd 芒鈥檙 ci am dro neu siarad efo鈥檙 teulu really i gael meddwl fi o鈥檙 arholiadau".
Mae'n teimlo鈥檔 "nerfus" a "just isio cael o drosodd efo really".
Hefyd yn ddisgybl blwyddyn 10, mae Cadi,15, wedi gwneud arholiadau ffug a "rhai ohonyn nhw鈥檔 gr锚t, ond rhai ddim mor dda".
"Dwi efo busnas gneud earrings. Felly dwi鈥檔 licio gneud rheina i ymlacio achos mae just yn stress-free!
"Ond hefyd dwi鈥檔 licio chwarae p锚l-droed a dwi鈥檔 licio mynd am dro hefo ffrindiau."
Mae'n hyderus mewn rhai pynciau ond yn fwy pryderus am ffiseg, "ond wna i trio gora' fi achos dyna鈥檙 peth gora' ti鈥檔 gallu gwneud".
Ac mae rhieni'n teimlo'r pwysau hefyd.
Wrth reswm, mae'n "gyfnod eitha' pryderus", meddai ei mam Catrin Rowlands.
Ond mae'n hyderus ei bod wedi dysgu sgiliau adolygu da yn yr ysgol, ac mae'n mynd i academi fathemateg yn ardal Bethel "i fireinio鈥檌 sgiliau hi鈥檔 barod ar gyfar yr arholiadau maes o law".
Mae'n cefnogi cymaint ag y mae'n gallu gan "roi lle tawel iddi adolygu" a "gwneud yn siwr bod ganddi offer cywir i fynd fewn i'r arholiadau".
Mae Sbarduno yn cynnig sesiynau adolygu dros y gwyliau ac yn 么l y perchennog, Awen Ashworth, mae yna chwant ymhlith disgyblion a rhieni am gefnogaeth ychwanegol yr adeg yma o'r flwyddyn.
"Dwi鈥檔 meddwl ma' 'na bwysa' mawr mewn ysgolion oherwydd ma' angen gorffen y cwricwlwm mewn amser ac ar ben hynny wedyn ma' nhw angen amser i gael y techneg yn iawn", meddai Ms Ashworth.
"Felly ma鈥檙 cefnogaeth ychwanegol nid yn unig i rieni a disgyblion ond mae o i鈥檙 ysgolion hefyd."
Mae Kamalagita Hughes o Gaerdydd yn awdur a hyfforddwr ar feddylgarwch sy鈥檔 gweithio gyda disgyblion ac athrawon.
Mae hi hefyd yn fam i fab ym mlwyddyn 10 sydd wrthi鈥檔 adolygu am arholiadau TGAU.
Mae annog y disgyblion i gael cydbwysedd rhwng y gwaith ac ymlacio yn hollbwysig, meddai.
鈥淢补别鈥档 really i bwysig i fwyta bwyd iachus, cysgu a mynd mas i鈥檙 awyr ffres.鈥
Cymryd cam yn 么l yw鈥檙 cyngor i rieni pan mae 'na wrthdaro dros adolygu, ac yn ystod arholiadau 鈥減aid poeni a just cefnogi dy blant y gorau gelli di鈥.
Ers y pandemig, mae yna newidiadau wedi bod i arholiadau gan gynnwys asesu llai o bynciau neu roi gwybodaeth o flaen llaw am beth allai ymddangos yn y papurau.
Ond eleni yng Nghymru does yna ddim trefniadau arbennig.
Dywedodd Cymwysterau Cymru y byddai arholiadau'r haf yn cael eu sefyll "dan yr un trefniadau a chyn y pandemig" ar 么l ystyried "anghenion dysgwyr yn ogystal 芒'n cyfrifoldeb i gynnal hyder yn y drefn gymwysterau Gymreig".
Ychwanegodd llefarydd y gallai graddau rhai pynciau unigol gael eu haddasu pe bai canlyniadau llawer yn is na chyn y pandemig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
- Cyhoeddwyd25 Ebrill