Lluniau: Yr awyr yn goleuo dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn storm solar bwerus, roedd golygfeydd godidog o Lewyrch yr Arth, neu'r aurora borealis, i'w gweld dros Gymru nos Iau.
O F么n i Fynwy, roedd yr awyr wedi ei goleuo'n hardd.
Mae'r golygfeydd i'w gweld oherwydd cyfuniad o'r golau gogleddol arferol a gweithgaredd anghyffredin ar wyneb yr haul.
Er bod y goleuadau i'w gweld uwchben y gwledydd mwya' gogleddol fel arfer, fel Gwlad yr I芒, roedd y storm hon mor gryf fel bod yr awrora i'w weld mor bell i'r de 芒'r Swistir a'r Eidal.
Mae sawl enw gwahanol am yr aurora borealis yn Gymraeg - Gwawl y Gogledd, Goleuadau'r Gogledd ac i eraill Ffagl yr Arth neu Lewyrch yr Arth.
Dyma rywfaint o'r golygfeydd dros Gymru nos Iau.