Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn wedi marw ar 么l i gar wyro oddi ar y ffordd ger Abertawe
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Abertawe brynhawn Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Pennard yn Kittle am 12:30 yn dilyn adroddiadau bod car wedi gwyro oddi ar y ffordd.
Er i'r gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad, daeth cadarnhad fod dyn 64 oed wedi marw yn y digwyddiad.
Mae ymchwiliadau Heddlu De Cymru i'r digwyddiad yn parhau, ac mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth all fod o ddefnydd i gysylltu 芒 nhw.