大象传媒

Mwmbwls: Pryder am lai o ymwelwyr yn sgil gwaith adeiladu

Mwmbwls
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y gwaith i fod i ddod i ben eleni yn wreiddiol, ond mae hynny bellach wedi symud i 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau yn y Mwmbwls yn Abertawe yn dweud bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng "yn sylweddol" ers i waith ddechrau ar adeiladu amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd.

Dywedodd Giuseppe Catalano, cogydd yn y bwyty Eidalaidd La Dolce Vita, fod nifer yr ymwelwyr 芒'r bwyty wedi gostwng tua 60% ers i'r gwaith ddechrau.

Tra bod busnesau wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru eu bod yn deall bod angen yr amddiffynfeydd newydd, mae hi鈥檔 鈥渉ollol glir鈥 i fusnesau bod llai o bobl yn ymweld 芒鈥檙 pentref.

Mae cynghorwyr a pherchnogion busnes yn galw am gefnogaeth bellach gan Gyngor Abertawe.

Mewn datganiad dywedodd y cyngor mai'r cynllun 拢25m yw'r buddsoddiad mwyaf yn y Mwmbwls ers cenedlaethau, ac y bydd y prom newydd yn denu mwy fyth o ymwelwyr, gan fod o fudd i fusnesau am flynyddoedd i ddod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bwyty La Dolce Vita wedi bod ar agor ers naw mlynedd, ac eleni fu'r tawelaf y mae Giuseppe Catalano yn ei chofio

Mae bwyty La Dolce Vita wedi bod ar agor ers naw mlynedd, ac yn 么l Giuseppe Catalano, eleni yw'r flwyddyn dawelaf y mae'n ei gofio.

鈥淩ydyn ni'n fwyty sefydledig, ac rydyn ni'n gwybod mai dim ond dros dro yw e, ond mae'r biliau, y rhent, y trethi - maen nhw'n dod beth bynnag," meddai.

鈥淩wy鈥檔 deall bod angen y gwaith ac y bydd yn braf erbyn y diwedd, ond mae鈥檔 effeithio ar y busnes.

鈥淢ae鈥檙 Mwmbwls yn hyfryd ar gyfer golygfa o鈥檙 m么r, ond does dim golygfa bellach, ac nid ein busnes ni鈥檔 unig sy鈥檔 cael ei effeithio.

"Rydyn ni鈥檔 siarad 芒 nifer o gwmpas yr ardal ac mae鈥檔 cael effaith ar bopeth.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhan o'r gwaith i amddiffyn y pentref rhag llifogydd wedi ei gwblhau

Adeiladwyd yr amddiffynfeydd m么r gwreiddiol yn y 19eg ganrif, ac maent wedi cael eu cynnal a'u hatgyweirio nifer o weithiau dros y blynyddoedd.

Ond mae'r cyngor yn dweud oherwydd eu hoedran, ddaethon nhw'n ddiffygiol.

Roedd y prosiect, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, i fod i ddod i ben yn wreiddiol eleni, ond mae bellach wedi鈥檌 symud i 2025.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carwyn Tomos yn dweud bod busnes yn dawelach eleni, ond mae'n credu mai nid y gwaith yn unig sydd ar fai

Mae Carwyn Tomos yn berchen ar lety gwyliau yn yr ardal, ac er ei fod wedi sylwi bod busnes yn dawelach eleni, nid y gwaith yn unig sydd ar fai, meddai.

鈥淢ae busnes wedi cwympo bach, ond mae yn newid o flwyddyn i flwyddyn," meddai.

鈥淢ae鈥檙 buddsoddiad yn un eitha' mawr i ni yn y Mwmbwls, ac mae mynd i wella鈥檙 ardal, ond mae wedi mynd ymlaen am dipyn o amser.

鈥淕aethon ni ddim tywydd da iawn yr haf hyn, mae popeth yn costio mwy, ond mae hwn yn un peth eto sydd ddim yn helpu.

鈥淯nwaith i鈥檙 gwaith orffen, fi鈥檔 credu bydd e鈥檔 denu mwy o bobl i鈥檙 Mwmbwls.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tom Giffard yn galw ar y cyngor i roi mwy o gefnogaeth i fusnesau'r Mwmbwls

Yn 么l Tom Giffard, AS y Ceidwadwyr Cymreig dros Orllewin De Cymru, mae angen i鈥檙 cyngor gefnogi鈥檙 busnesau lleol.

鈥淢ae鈥檔 glir bod y gwaith yn rhywbeth positif, ond mae鈥檔 cael effaith ar y busnesau lleol," meddai.

"Mae pobl yn dweud bod llai o bobl yn dod yma, felly mae鈥檔 bwysig bod y cyngor yn gweithio gyda鈥檙 busnesau lleol i sicrhau dyfodol iddyn nhw.

鈥淒ylai鈥檙 busnesau gael rhyw fath o gymorth ariannol. Dyna ran o ap锚l y pentref - y busnesau bach.鈥

'Gwaith hanfodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe eu bod yn 鈥渃ydnabod y pryderon gwirioneddol a godwyd gan fusnesau ond mae鈥檙 gwaith hwn yn hanfodol i atal llifogydd mewn busnesau a chartrefi鈥.

Ychwanegodd y bydd y promen芒d newydd yn gwneud y Mwmbwls yn 鈥済yrchfan hyd yn oed yn fwy dymunol, a fydd o fudd i fusnesau am flynyddoedd lawer i ddod鈥.

鈥淵n ystod y gwaith mae cannoedd o fannau parcio cyhoeddus yn parhau yn y Mwmbwls, gyda rhai mannau newydd yn cael eu creu ar ymyl y ffordd.

鈥淢ae contractwyr yn parhau i gynnal sesiynau galw heibio misol ar gyfer busnesau a鈥檙 cyhoedd fel y gellir mynd i鈥檙 afael ag unrhyw faterion a godir ganddynt lle bo modd.鈥

Pynciau cysylltiedig