Gwobrwyo merch o Wynedd am 'wytnwch eithriadol'
- Cyhoeddwyd
Mae Anya Davin-Easey Sherlock, merch o'r Bermo yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ym Mlaenau Ffestiniog, wedi ennill Gwobr Partner Centrepoint UK 2024.
Gwobr ydy hi sy'n cydnabod ei thaith ryfeddol a'i gwytnwch wrth oresgyn heriau sylweddol drwy gydol ei bywyd.
Cafodd Anya,18, ei gwobrwyo yng Ngwobrau Centerpoint yn Amgueddfa Brydeinig Llundain.
Dathlu llwyddiant pobl ifanc sydd wedi dangos dyfalbarhad a dewrder eithriadol ydy nod y gwobrau.
Gan gefnogi bron i 14,000 o unigolion ifanc yn flynyddol, Centrepoint ydy prif elusen digartrefedd ieuenctid y DU.
Mae mwy nag un rheswm am ei llwyddiant.
Gan symud ymlaen o broblemau ei phlentyndod mae Anya wedi llwyddo i greu dyfodol disglair iddi hi ei hun ac mae'n cefnogi pobl ifanc eraill sy'n wynebu digartrefedd.
Yn ogystal 芒 bod yn gryf o ran ei chefnogaeth i bobl LHDTC+ yng Ngwynedd, mae Anya hefyd wedi cychwyn gr诺p celfyddydau perfformio, 'Nabod', sydd wedi datblygu'n sioe OLION gan Gwmni Fr芒n Wen.
'Noson anhygoel'
Wrth drafod ei llwyddiant gyda 大象传媒 Cymru Fyw, roedd Anya ar ben ei digon.
"Oedd cael y wobr yma yn hollol amazing, moment mor swreal," meddai.
"O'n i wedi cael gwybod bo' fi am gael y wobr, ond oedd derbyn o ar y pryd gan y Tywysog William o bawb, yn mental.
"Noson anhygoel, gweld pobl ifanc eraill yno, a'r holl celebs - oedd o i gyd yn anhygoel.
"Dwi 'di cael cefnogaeth am y ddwy flwyddyn ddiwethaf mewn support house, ac felly dwi 'di gwneud cymaint o waith gwirfoddoli i drio helpu pobl eraill.
"Dwi 'di bod yn gwneud advocacy i bobl ifanc sy'n stryglo hefo digartrefedd, a lot o bethau i gefnogi hawliau LGBTQ+ yng ngogledd Cymru.
"Roedd y wobr yma fel y cherry ar y gacen, ac oedd o'n neis iawn cael fy nghydnabod am yr holl waith.
"Ond ar ddiwedd y dydd, byse fo i gyd werth o hyd yn oed os fyswn i heb gael y wobr."
Mae elusen GISDA wedi bod yn cefnogi Anya.
Meddai Sian Tomos, Prif Swyddog Gweithredol GISDA: "Rwyf mor falch o lwyddiant a chyflawniadau Anya - mae hi wedi achub ar bob cyfle yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Mae hi'n haeddu'r ganmoliaeth uchaf.
"Diolch iddi am ei gwaith caled ac am fod yn llysgennad mor wych i GISDA. Diolch o galon hefyd i staff GISDA sydd wedi bod yn ei chefnogi.
"Da iawn Anya, rydyn ni i gyd mor falch ohonoch chi!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Hydref