Menywod sy'n cael eu cam-drin gan yr heddlu yn cael eu 'hanwybyddu'
- Cyhoeddwyd
Mae menywod sydd wedi cael eu cam-drin gan gyn-blismyn yn dweud bod yr heddlu wedi anwybyddu'r broblem ers degawdau.
Mae menyw a gafodd ei cham-drin gan gyn-bartner oedd yn swyddog gydag un o heddluoedd Cymru wedi dweud wrth raglen 大象传媒 Wales Live ei bod hi'n teimlo "ar fy mhen fu hun yn llwyr".
"Roedd e mor dreisgar. Bydde fe yn fy nghuro a'n nghicio. Roeddwn i'n gleisiau i gyd," meddai Mary - nid ei henw iawn.
"Roedd e'n digwydd am flynyddoedd, ond roeddwn i'n rhy ofnus i adael neu i roi gwybod i unrhyw un ar y pryd."
Yn 么l Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, mae hi'n clywed yn aml am ddioddefwyr yn cael eu "hanwybyddu" gan heddluoedd.
Dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod hi'n amlwg bod angen i bethau wella, a bod y llywodraeth yn San Steffan wedi addo cyflwyno safonau proffesiynol gorfodol newydd ar ymddygiad staff yr heddlu.
Hyder i siarad
Mae Mary wedi siarad 芒 大象传媒 Cymru am ei phrofiadau hi o gael ei cham-drin gan ei phartner, oedd yn gyn-blismon, dros gyfnod o rai blynyddoedd.
"Heddwas oedd e - roedd e i fod i amddiffyn pobl ond doedd e ddim," meddai.
Fe ddisgrifiodd un noson pan oedden nhw allan mewn digwyddiad cymdeithasol gyda phlismyn eraill, pan darodd hi yn ei hwyneb a'i thaflu mewn i wal.
"'Naeth neb gysylltu 芒 fi wedyn i weld a oeddwn i'n iawn, a chyn belled a dwi'n gwybod, chafodd dim byd ei ddweud wrtho.
"Roeddwn i'n teimlo ar fy mhen fy hun yn llwyr."
Fe benderfynodd Mary siarad yn gyhoeddus ar 么l clywed am achos Sarah Everard, a gafodd ei threisio a'i lladd gan y plismon Wayne Couzens yn 2021.
"Ar 么l clywed yr hyn ddigwyddodd, roeddwn i mor flin - a meddwl mae'n rhaid i fi s么n wrth bobl, falle bydde fe'n helpu rhywun arall."
Fe gysylltodd hi i roi tystiolaeth yn ddienw i'r gr诺p ymgyrchu Police Me Too, sy'n cyhoeddi straeon pobl sy'n dweud eu bod wedi cael eu cam-drin gan yr heddlu
Mae sylfaenydd y gr诺p yn dweud eu bod wedi derbyn 170 o straeon ers 2021, a'r straeon hynny wedi dod o 38 o heddluoedd gwahanol.
Y Farwnes Helen Newlove yw Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr.
Mae hi'n dweud ei bod hi'n allweddol bod gan ddioddefwyr "hyder y bydd yr heddlu yn ymchwilio i achosion o gamymddwyn yn drwyadl ac yn deg".
Dywedodd bod arolwg ganddi hi yn dangos bod dau o bob pum dioddefwr yn anfodlon ag ymateb yr heddlu, a 73% yn dweud nad oedden nhw'n teimlo'n hyderus byddai cofnodi'r trosedd yn arwain at gyfiawnder.
Yn 么l ystadegau'r Swyddfa Gartref roedd 42,854 o gwynion yn erbyn swyddogion penodol yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023.
Yn yr un cyfnod dim ond 972 - 2% o'r achosion - arweiniodd at broses ffurfiol fel gwrandawiad disgyblu.
Heddlu'r De - 'Tryloywder yn allweddol'
Mae rhaglen 大象传媒 Wales Live wedi cael mynediad i dimau o fewn Heddlu De Cymru sy'n amlwg yn yr ymdrech i ddelio a chamymddwyn
Yn 么l y prif gwnstabl Jeremy Vaughan, mae tryloywder yn allweddol er mwyn adfer hyder y cyhoedd.
Yn gynharach eleni, Heddlu'r De oedd un o ddau ledled Cymru a Lloegr i gael gradd 'da' mewn arolwg oedd yn edrych ar y ffordd mae heddluoedd yn delio 芒 llygredd.
Y ditectif uwch arolygydd Gareth Morgan sy'n arwain yr adran safonau proffesiynol.
Mae'n tynnu sylw at achos y llynedd pan gafodd un o swyddogion yr heddlu ei garcharu am gael rhyw gyda dioddefwr trosedd yr oedd wedi cwrdd 芒 hi ar ddyletswydd.
"Dwi'n credu mai dyma'r achos cynta' i rywun gael ei erlyn yn y DU ar 么l i ni gynnal ymchwiliad i'w ymddygiad, heb dderbyn cwyn yn y lle cyntaf," meddai
Mae gan yr heddlu feddalwedd, meddai, sy'n sgrinio systemau'r heddlu fel ffonau a negeseuon e-byst yn chwilio am dermau neu negeseuon allai fod yn sarhaus neu'n amhriodol.
"Yn sicr yn Heddlu De Cymru, fydden ni ddim yn trio amddiffyn pobl oherwydd eu bod nhw'n swyddogion heddlu," meddai.
Dywedodd y Swyddfa Gartref bod y llywodraeth "wedi'i ymrwymo i gyflwyno safonau proffesiynol gorfodol ar wirio staff, a chamymddygiad swyddogion, yn ogystal 芒 hyfforddiant cryfach yngl欧n 芒 thrais yn erbyn menywod a merched".
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) eu bod yn "ystyried camymddygiad yr heddlu fel mater difrifol iawn, yn enwedig cam-drin domestig gan swyddogion heddlu".
"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r heddlu i wella'r ffordd maen nhw'n ymdrin ag achosion o gam-drin domestig, ac i wella ymddiriedaeth a hyder dioddefwyr."