大象传媒

Gyrrwr lori wedi marw mewn gwrthdrawiad gyda char

Ffordd LlanhariFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y gwasanaethau bryd eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Llanhari fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 60 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ger pentref Llanharan yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Llanhari toc cyn 10:00 ddydd Mawrth.

Bu farw gyrrwr y lori - dyn 60 oed o Ystalyfera, Abertawe - yn y fan a'r lle.

Cafodd dyn arall 46 oed - oedd yn gyrru'r car Vauxhall Corsa - ei gludo i'r ysbyty ar 么l cael ei anafu yn y digwyddiad.

Bu'r ffordd ar gau am rai oriau wrth i'r heddlu ymchwilio, ac mae swyddogion wedi diolch i drigolion lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad.

Mae'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig