大象传媒

Dafydd ap Siencyn: Dihiryn Dyffryn Conwy neu'r 'Robin Hood Cymraeg?'

Dafydd ap SiencynFfynhonnell y llun, Eglwys Sant Grwst
  • Cyhoeddwyd

鈥淒yn drwg ydi Dafydd ap Siencyn鈥 - dyna eiriau鈥檙 Ustus Coch wrth iddo sefyll yng nghanol neuadd fawr Castell Conwy yn annerch byddin o filwyr yn y 1460au.

Ond oedd Dafydd ap Siencyn yn ddyn drwg go iawn? Neu oedd o'n arwr lleol oedd yn ceisio gwarchod ei gynefin rhag pwysau brenhinol Lloegr?

Mae rhai yn mynd cyn belled ag awgrymu fod Dafydd ap Siencyn wedi ysbrydoli chwedl Robin Hood.

"Bywyd herwr yn cuddio yn y coed gyda鈥檌 ddilynwyr ac yn gwisgo dillad gwyrdd a brown", a dyna鈥檙 union ddisgrifiad o sut yr oedd Dafydd ap Siencyn yn byw yng nghoed Gwydir ger Llanrwst.

Rhwystrau ar y Cymry

Mae tref Llanrwst, Sir Conwy dal yn dathlu ap Siencyn 600 mlynedd yn ddiweddarach gyda g诺yl fydd yn cael ei chynnal yn y dref rhwng 20-22 Medi.

Ond pwy oedd Dafydd ap Siencyn? Oedd o鈥檔 ddihiryn y dyffryn neu arwr mawr y Cymry?

Un sydd wedi ymchwilio i hanes Dafydd ap Siencyn ac sy鈥檔 cyflwyno darlith amdano fel rhan o鈥檙 诺yl yw Bleddyn Hughes o Lanrwst.

鈥淢ae si诺r ei fod o鈥檔 bodoli rhwng tua 1430-1490, yn y cyfnod yna," meddai.

鈥淒yma鈥檙 cyfnod ble roedd y deddfau cosb yn erbyn y Cymry yn bodoli yn dilyn gwrthryfel Owain Glynd诺r. Roedd y Cymry yn byw fel pobl eilradd yn eu gwlad eu hunain.

鈥淒eddfau oedd y rhain oedd wedi鈥檜 gosod ar ddechrau鈥檙 15fed ganrif oedd yn gosod rhwystrau ar y Cymry o fewn gwlad eu hunain.

鈥淯n o鈥檙 rhwystrau oedd nad oedd Cymro yn cael prynu eiddo o fewn 10 milltir i'r fwrdeistref frenhinol, a鈥檙 un agosaf i Ddyffryn Conwy oedd Castell Conwy."

Ffynhonnell y llun, Bleddyn Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bleddyn Hughes o Lanrwst yn rhoi darlith am Dafydd ap Siencyn fel rhan o'r 诺yl

Dyma鈥檙 ardal ble roedd ap Siencyn yn gweithredu. Roedd man cyfarfod yr herwyr lleol i gyd yn Ysbyty Ifan, gan fod y lleoliad yn disgyn y tu allan i鈥檙 gwaharddiad 10 milltir o Gonwy.

Roedd ei ddilynwyr ag yntau yn ymlwybro drwy鈥檙 coed ac yn taro鈥檙 gelyn yn gyflym cyn diflannu鈥檔 gyflym hefyd.

Roedd yn gweithredu鈥檔 debyg iawn i Owain Glynd诺r ac mae rhai hyd heddiw yn ei weld fel dilynwr i Glynd诺r a rhywun wnaeth gario achos Glynd诺r yn ei flaen yn erbyn grym brenhiniaeth Lloegr.

Plant Glynd诺r oedd enw arall gafodd ei roi ar Dafydd a鈥檌 ddilynwyr.

Roedd y cyfnod hwn yn un o ryfela rhwng yr Iorciaid a鈥檙 Lancastriaid yn Rhyfel y Rhosynnau, ac roedd Dafydd ap Siencyn wedi ochri gyda鈥檙 Lancastriaid ar y pryd, gan mae鈥檙 Iorciaid oedd mewn grym.

Canfod ei ogof

Roedd ap Siencyn yn dod o linach o uchelwyr. Roedd yn perthyn i Marchudd ap Cynan, oedd yn un o 15 o deuluoedd brenhinol Gwynedd.

Taid Dafydd ap Siencyn oedd Rhys Gethin, un o ddilynwyr mwyaf ffyddlon a ffyrnig Owain Glynd诺r, felly mae modd dadlau fod gwrthryfela yn ei waed.

Yn 1468 fe aeth Dafydd ap Siencyn gyda Jasper Tudur i geisio difetha prif garaswn yr Iorciaid yn Ninbych. Fe lwyddodd ac o ganlyniad roedd y brenin Edward IV eisiau dial.

Dyma鈥檙 Brenin yn anfon Iarll Penfro, William Herbert, i ddinistrio popeth yn Nyffryn Conwy o Landudno i Benmachno, gan ladd pawb oedd yn nhref Llanrwst oedd heb ffoi yn barod.

Nawr roedd yn rhaid i Dafydd ap Siencyn a鈥檌 ddilynwyr guddio.

Ffynhonnell y llun, Garry Lloyd Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwilfrydedd Garry Lloyd Jones yn 14 oed wnaeth ei arwain at ogof gudd Dafydd ap Siencyn

Stori boblogaidd amdano oedd ei fod yn cuddio mewn ogof uchel yng nghoedwig Gwydir ar gyrion Llanrwst.

Doedd gan neb syniad am yr ogof am ganrifoedd, nes i chwilfrydedd plentyn olygu fod Garry Lloyd Jones wedi camu i mewn iddi ar ddamwain.

Mae Garry bellach yn drefnydd angladdau yn y dref ac wedi byw yn Llanrwst gydol ei oes.

鈥淭ua 17 o鈥檔 i ac roeddwn yn cadw colomennod rasio," eglurodd. "Pob amser yr oeddwn yn ei rhyddhau, roedd 'na hebog yn hedfan ar eu holau ac yn eu dal.

鈥淯n diwrnod dyma fi鈥檔 gweld ble oedd yr hebog yn nythu, yn uchel ar Graig yr Hebog fel mae鈥檔 cael ei adnabod r诺an yn lleol, felly nes i benderfynu dringo i fyny tua 40 troedfedd i geisio gweld os oedd 'na fodrwyau un o fy ngholomennod i dal yno.

鈥淎r 么l cyrraedd ble oedd y nyth, sylwi fod 'na ogof wedi ei guddio yn y graig o'r golwg o unrhyw le ar lefel y ddaear.

"Nes i ddim meddwl dim byd ohono tan ryw 25 mlynedd yn ddiweddarach tra'n sgwrsio gyda rhywun am hanes Dafydd ap Siencyn.

Ffynhonnell y llun, Garry Lloyd Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ogof Dafydd ap Siencyn yn uchel yn y creigiau a'r olygfa o Lanrwst o g锚g yr ogof.

鈥淩oeddwn i鈥檔 siarad gyda rhywun ym Mhlas Gwydir nath ddigwydd crybwyll fod 'na chwedl am ogof rhywle yn y creigiau neu鈥檙 goedwig ble yr oedd ap Siencyn yn cuddio, ond fod 'na neb wedi dod ar ei draws.

鈥淩oedd hi鈥檔 dipyn o beth gweld wyneb y person pan ddwedes i fy mod yn gwybod yn iawn ble oedd yr ogof.

鈥淭ua chwe blynedd yn 么l dyma fi鈥檔 penderfynu mynd yn 么l at yr ogof ond y tro hwn gyda chamera.鈥

Daeth Garry o hyd i ben gwaywffon hefyd yn agos at geg yr ogof, ac wedi iddo ei anfon at arbenigwr, daeth i'r casgliad ei fod yn dyddio o'r un cyfnod.

Mae hyn medd Garry yn "gadarnhad pellach" mai dyma'r man ble oedd ap Siencyn yn cuddio.

Ffynhonnell y llun, Garry Lloyd Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Garry o hyd i ben gwaywffon yn agos at g锚g yr ogof oedd yn dyddio o'r un cyfnod

Yn rhyfeddol fe dderbyniodd Dafydd ap Siencyn bardwn brenhinol yn 1468, yn fuan iawn ar 么l trechu garaswn Dinbych.

Daeth yn gwnstabl Castell Conwy ar 么l lladd ei ragflaenydd ac yn y diwedd bu farw o'i glwyfau ar 么l ymladd.

Roedd yn fardd yn ogystal 芒 bod yn uchelwr, ac mae s么n iddo gyfansoddi dau englyn pan oedd ar ei wely angau.

Yn 么l Bleddyn Hughes mae Dafydd ap Siencyn yn sicr yn "arwr brodorol wnaeth gadw stori Glynd诺r a鈥檌 waith yn fyw."

Fel rhan o鈥檙 诺yl sydd wedi鈥檌 threfnu'r penwythnos hwn (20-22 Medi), mae arddangosfeydd, gwledd ganoloesol, ail-greu rhyfela canoloesol, sgyrsiau, teithiau cerdded drwy goedwig Gwrych er mwyn i bobl weld y tir ble oedd Dafydd ap Siencyn a鈥檌 ddilynwyr yn troedio.

Bydd yr 诺yl yn 鈥済yfle i godi ymwybyddiaeth am Dafydd ap Siencyn鈥 medd Bleddyn Hughes ac yn gyfle i ddysgu mwy amdano.

Arwr neu ddihiryn oedd o? Penderfynwch chi.

Pynciau cysylltiedig