大象传媒

Cariad am ddillad gyda 'stori a hanes'

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies

"Wrth brynu dillad ail-law a phethau vintage mae 'na stori a hanes i ddilledyn ac mae rhywbeth eithaf arbennig am hynny. Hefyd ti'n gallu cerdded i mewn i rhywle a gwybod fod neb arall yn mynd i fod wedi gwisgo yr un peth."

Mae Cymru Fyw wedi siarad gyda Branwen Davies o Gaerdydd, cyfarwyddwr cwmni theatr yr Urdd, sydd hefyd yn gwerthu dillad ail-law a vintage, am ei chariad am ddillad 'gyda chymeriad':

Hobi ydy prynu dillad ail-law i fi. Roedd Nain yn arfer gweithio mewn siop elusen ym Mhorthmadog ac o'n i wrth fy modd yn mynd trwy'r rails.

O'n i'n gweithio mewn siop dillad ym Mangor pan o'n i yn y brifysgol ac o'n i'n cael gwisgo fyny a chael bach o hwyl efo'r dillad.

Dros y cyfnod clo o'n i'n edrych ar fy wardrob i ac yn meddwl falle fod hwn yn gyfle i werthu bach o ddillad. O'n i'n teimlo'n euog mod i ddim yn gwisgo nhw ac oedd o'n ffordd wahanol o ddangos dillad (ar Instagram) a rhoi cyfle i rywun arall i fwynhau nhw.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies

Oedd o'n ridiculous bod nhw'n hongian yn fy wardrob i pan fyddai rhywun arall yn gallu mwynhau nhw. Dwi wedi gwneud gwaith ymchwil am beth mae'n gymryd i wneud darn o ddilledyn; mi fyddai'n cymryd 13 mlynedd i yfed faint o dd诺r mae'n cymryd i wneud un crys-t ac un p芒r o j卯ns.

Gwastraff

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Esgidiau vintage Branwen

Ac hefyd gymaint o ddillad sy'n cael eu gwastraffu, cael eu llosgi neu eu taflu. Gan bod fi'n mwynhau ffasiwn gymaint o'n i'n meddwl, mae'n rhaid i fi gymryd cyfrifoldeb hefyd am lle dwi'n gwario pres a lle dwi'n prynu dillad.

Rydyn ni'n gwastraffu gymaint a dwi'n meddwl mae'n rhaid i fi feddwl am ffasiwn mewn ffordd wahanol.

Ychydig flynyddoedd yn 么l roeddwn i wedi penderfynu peidio prynu unrhyw beth newydd am flwyddyn ac roedd o wedi gwneud fi feddwl ble dwi'n gwario fy mhres a beth dwi'n prynu a pham dwi'n prynu.

Trysorau

Gan bod fi'n gweithio ym myd y theatr dwi wastad wedi bod 芒 diddordeb mewn gwisg a gwisgo fyny. Dwi ddim yn lico'r syniad o wisgo yr un peth 芒 phawb arall. Dwi'n licio cyffwrdd pethau, lliw a phatrwm.

Dwi'n gwerthu y dillad vintage dwi wedi casglu ar hyd y blynyddoedd, ac hefyd y dillad dwi wedi prynu a chadw.

Mae 'na gymuned vintage ffantastig ar-lein a dwi wedi dod i adnabod lot o bobl.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffrog vintage

Dwi'n mwynhau cael bargen - dwi'n cofio mynd i siop elusen yng Nghaerdydd a dod o hyd i got cashmere hir lliw camel ac roedd hi'n ffitio fel maneg.

O'n i'n meddwl, mae hon mor lyfli ac alla'i gael cymaint o fywyd mas o hwn. Roeddwn i wedi talu 拢20 amdano fo ac roedd o werth cannoedd - teimlad braf.

Mae'r dillad wedi cael eu gwneud yn well, mae'r ansawdd yn dda. Maen nhw'n para.

Mae yna lot o bethau fel patrymau gwahanol, deunyddiau gwahanol, lliwiau gwahanol - maen nhw'n unigryw ac mae rhywun yn cael pleser allan o ffeindio rhywbeth arbennig.

Geirfa

ail-law / second hand

dilledyn / item of clothing

arbennig / special

cyfarwyddwr / director

cymeriad / character

prynu / to buy

elusen / charity

wrth fy modd / delighted

prifysgol / university

hwyl / fun

cyfnod clo / lockdown

cyfle / opportunity

gwerthu / to sell

euog / guilty

hongian / to hang

ymchwil / research

gwastraffu / to waste

llosgi / to burn

taflu / to throw

cyfrifoldeb / responsibility

gwario pres / spend money

cyffwrdd / to touch

casglu / to collect

cymuned / community

maneg / glove

ansawdd / quality

para / to last

deunyddiau / materials

Pynciau cysylltiedig