Merch 10 oed wedi darganfod olion deinosor ger Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Pan aeth Tegan, 10 oed, am dro ar y traeth gyda鈥檌 mam ar hyd arfordir de Cymru, doedd hi ddim yn disgwyl darganfod olion traed deinosor.
Ond dyna鈥檔 union a ddigwyddodd pan welodd bum marc mawr ar y creigiau ym Mhwynt Larnog ger Caerdydd.
Mae arbenigwyr yn credu y gallai鈥檙 olion traed yma fod yn perthyn i Camelotia 鈥 creadur anferth a fu鈥檔 crwydro鈥檙 ardal dros 200 miliwn o flynyddoedd yn 么l.
Mae鈥檙 olion troed, sydd tua 75cm i ffwrdd o'i gilydd, wedi denu sylw arbenigwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Dywedodd y paleontolegydd Cindy Howells ei bod 鈥測n weddol sicr鈥 mai olion dinosor yw鈥檙 rhain.
鈥淢ae鈥檙 patrwm cerdded cyson rhwng y traed chwith a dde yn awgrymu mai rhywogaeth fawr o鈥檙 teulu sauropodomorph yw hwn, tebyg i rywogaethau gyda gwddf hir fel brachiosaurus a diplodocus,鈥 eglurodd.
Dywedodd Tegan fod y profiad yn un 鈥済wallgof,鈥 a chysylltodd ei mam, Claire gyda鈥檙 amgueddfa yn syth gyda lluniau o鈥檙 marciau.
"Oedd o mor c诺l," meddai Tegan, oedd wedi teithio o Bontardawe ger Abertawe er mwyn chwilio am ffosiliau.
"Do'n i ddim yn disgwyl darganfod unrhyw beth o gwbl!"
Roedd Claire wrth ei bodd bod gyda'r darganfyddiad, ac mae'r cyfan wedi ysbrydoli ei merch ifanc sy鈥檔 caru deinosoriaid.
鈥淢ae鈥檔 anodd credu ein bod ni'n cerdded ar yr un traeth lle'r oedd anifail cynhanesyddol enfawr yn bresennol miliynau o flynyddoedd yn 么l,鈥 meddai.
"Elli di dreulio oesoedd yn chwilio am drysorau deinosor, felly mae gweld hyn yn digwydd i Tegan pan mae hi mor ifanc yn rhyfeddol.鈥
Esboniodd Ms Howells, sydd a 40 mlynedd o brofiad yn astudio paleontoleg yng Nghymru, bod yr olion traed yma, yn 么l pob tebyg, yn perthyn i Camelotia.
Roedd gan y deinosor yma, a grwydrai Ewrop yn ystod y cyfnod Triasig, wddf a chynffon hir ac roedd yn gallu cerdded ar ddwy neu bedair coes.
Er bod esgyrn o ddinosoriaid tebyg wedi鈥檜 darganfod yn ardal Bryste, mae鈥檙 darganfyddiad hwn yn cryfhau鈥檙 dystiolaeth gynyddol bod deinosoriaid yn byw yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw.
Mae Pwynt Larnog, traeth ger Penarth, lle darganfuwyd yr olion, eisoes yn safle adnabyddus am ei hanes cynhanesyddol.
Mae darganfyddiadau diweddar, gan gynnwys sgerbwd llawn o鈥檙 Dracoraptor - sy'n perthyn i'r T-Rex - yn 2014 ac olion traed a ddarganfuwyd gan blentyn pedair oed yn 2021, yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr ardal ar gyfer astudiaethau paleontolegol.
"Tan yn ddiweddar, doedden ni ddim yn meddwl bod llawer o ddeinosoriaid yma, ond erbyn hyn mae darganfyddiadau鈥檔 digwydd bob ychydig flynyddoedd,鈥 meddai Ms Howells.
Mae鈥檙 ardal yn enwog am ei ddaeareg triasig, pan yr oedd Cymru鈥檔 ymdebygu i anialwch poeth.
Dros amser, wrth i lefel y m么r godi, fe newidiodd yr amgylchedd i fod yn fwy ffafriol i fywyd gwyllt.
鈥淩oedd Cymru tua 200 miliwn o flynyddoedd yn 么l yn debyg i鈥檙 dwyrain canol heddiw,鈥 eglurodd Ms Howells.
Y cam nesaf yn y broses yw cadarnhau鈥檙 olion drwy ymchwil bellach ac mae Ms Howells yn paratoi adroddiad i鈥檞 rannu gyda chyd-arbenigwyr.
Pwysleisiodd Ms Howells pwysigrwydd darganfyddiadau gan aelodau鈥檙 cyhoedd, gan nad oes gan yr amgueddfeydd yr adnoddau i archwilio popeth eu hunain.
Mae鈥檙 Gymdeithas Ddaearegol yn cynghori chwilio am olion ar 么l llanw uchel pan fydd d诺r yn aros yn y gwaddodion, gan wneud yr 么l-troed yn haws i'w weld.