大象传媒

Arglwydd Davies yn ymddiheuro am sylwadau ar anhrefn Lloegr

Arglwydd Byron Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Arglwydd Byron Davies wedi ymddiheuro ar 么l awgrymu bod "cyfiawnhad gwleidyddol" i'r terfysgoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru wedi ymddiheuro ar 么l awgrymu fod "cyfiawnhad gwleidyddol" i'r terfysgoedd diweddar yn Lloegr.

Dywedodd yr Arglwydd Byron Davies o Benrhyn G诺yr yn ei ymddiheuriad ei fod yn 鈥渃ondemnio鈥檔 llwyr鈥 y trais ond ei fod yn dal i gredu fod agwedd Llafur tuag at fewnfudo a throseddau trefniadol yn 鈥渉ollol negyddol鈥.

Cafodd y sylwadau eu gwneud mewn ymateb i bost gan y newyddiadurwr Dan Hodges ar X a ddywedodd fod "dim cyfiawnhad gwleidyddol" i'r ymosodiadau a bod unrhyw feio ar y blaid Lafur yn "hurt".

Ers hynny mae鈥檙 Arglwydd Davies wedi cael ei geryddu gan ei brif chwip a鈥檌 atgoffa o ganlyniadau camddefnydd iaith, yn 么l y Ceidwadwyr.

Fe wnaeth yr Arglwydd Davies amddiffyn ei sylwadau i ddechrau, a dywedodd fod cyfiawnhad gwleidyddol i'r ymosodiadau oherwydd bod "Llafur wedi rhwystro Cynllun Rwanda 130+ o weithiau".

Mae Cynllun Rwanda yn ymgais gan y Ceidwadwyr i anfon ymfudwyr i Rwanda i gael eu ceisiadau lloches wedi'u prosesu.

Mae'r sylwadau yn dilyn cyfres o anhrefn treisgar mewn rhannau o Loegr ers i dair merch gael eu lladd yn Southport ddydd Llun.

Mae Axel Rudakubana, 17, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, wedi鈥檌 gyhuddo o鈥檙 ymosodiad ond mae s茂on ffug wedi lledaenu ar-lein bod y llofrudd yn geisiwr lloches a deithiodd i鈥檙 DU ar gwch.

'Annerbyniol'

Wrth bostio ar X, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, fod sylwadau鈥檙 Arglwydd Davies yn 鈥渇fiaidd, yn gyfeiliornus ac yn beryglus鈥.

鈥淣id yw trais hiliol byth yn cael ei gyfiawnhau,鈥 meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wrth Nation Cymru fod sylwadau鈥檙 Arglwydd Davies yn 鈥渁nnerbyniol鈥 a bod prif chwip yr wrthblaid yn yr Arglwyddi yn siarad ag ef.

Pynciau cysylltiedig