Tynnu plasty 拢1.2m yn Eryri oddi ar y farchnad - am y tro
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu tynnu plasty - oedd ar werth am 拢1.2m - oddi ar y farchnad dros dro.
Cafodd Plas Tan y Bwlch ym Maentwrog ei roi ar y farchnad ym mis Awst wedi i'r awdurdod ddweud nad oedd yn bosib iddyn nhw barhau i'w ariannu.
Ond mae ymgyrchwyr lleol eisiau i'r plasty gael ei drosglwyddo i gr诺p cymunedol.
Ni fydd penderfyniad terfynol ar ddyfodol Plas Tan y Bwlch yn cael ei wneud tan gyfarfod yr Awdurdod ar 30 Ebrill, 2025.
'Mwy o amser i brynwyr'
Fe benderfynodd yr awdurdod i beidio 芒 derbyn cais preifat i brynu'r plasty am 拢1.2m - penderfyniad gafodd ei wneud tu 么l i ddrysau caeedig.
Yn sgil pryderon gan bobl leol am golli mynediad at Lyn Mair a choetiroedd ger y Plas, fe wnaeth yr Awdurdod gynnal sesiwn galw heibio agored ar 14 Hydref - gyda 180 o bobl leol yn ymweld.
Daeth i'r amlwg fod y mwyafrif yn cefnogi cynnal mynediad cyhoeddus i Lyn Mair a'r coetiroedd.
Yn ystod cyfarfod yr Awdurdod ddydd Mercher, penderfynodd yr aelodau dynnu Plas Tan y Bwlch oddi ar y farchnad dros dro.
Dywedodd yr aelodau mai'r rheswm y tu 么l i'r penderfyniad oedd rhoi "mwy o amser i brynwyr a grwpiau cymunedol i ddatblygu eu cynlluniau ymhellach".
Dywedodd yr awdurdod na fydd y penderfyniad terfynol ar ddyfodol y safle yn cael ei wneud tan gyfarfod yr Awdurdod ar 30 Ebrill.
Mae'r datganiad gan yr Awdurdod yn nodi mai "bryd hynny bydd yr aelodau'n ystyried cynllun ar gadw Llyn Mair a'r mwyafrif o'r coedlannau i aros dan berchnogaeth yr Awdurdod gyda'r bwriad y bydd gweddill yr adeiladau a'r diriogaeth yn cael eu gwerthu neu eu trosglwyddo i fentrau cymunedol".
Bydd yr awdurdod yn cynnal sesiwn galw heibio yn gynnar yn y Gwanwyn er mwyn rhoi diweddariad i'r gymuned cyn cyfarfod yr awdurdod fis Ebrill.
Ymgyrchwyr yn 'falch iawn'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Llinos Alun ar ran ymgyrchwyr Achub Plas Tan y Bwlch eu bod yn "falch iawn" am fod yr Awdurdod wedi "gwrando ar bryder y bobl leol o'r diwedd".
"Rydym wir yn gobeithio bydd hyn yn golygu bod yr Awdurdod yn dymuno gweld y gymuned leol yn perchnogi'r ased anhygoel yma," meddai.
"Mae pobl leol eisiau gweld Plas Tan y Bwlch yn ffynnu eto," gan ddweud bod angen "yr amser a'r cyfle i greu pennod newydd yn ei hanes."
Ychwanegon nhw ei fod yn "hanfodol" bod cyrff cyhoeddus yn atebol i'r cyhoedd wrth ddod i werthu'r plasty.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst
- Cyhoeddwyd11 Medi
- Cyhoeddwyd7 Chwefror