大象传媒

Ysgol yn apelio am feics wedi i bump gael eu dwyn

Beics
  • Cyhoeddwyd

Mae Ysgol Rhosgadfan yng Ngwynedd wedi gwneud ap锚l i鈥檙 gymuned leol am roddion o unrhyw feics sb芒r ar 么l i bum beic gael eu dwyn o鈥檙 ysgol dros gyfnod yr haf.

Ers sawl blwyddyn mae鈥檙 ysgol ar gyrion Caernarfon wedi bod yn buddsoddi mewn cynllun i hyfforddi pob disgybl i allu reidio beic er mwyn datblygu eu sgiliau.

Ond dros wyliau鈥檙 haf fe gafodd bump o feics mwya鈥檙 ysgol eu dwyn, a hynny鈥檔 golygu ar hyn o bryd nad oes modd i ddisgyblion yn yr ysgol ymarfer.

Yn 么l yr ysgol maen nhw wedi cysylltu 芒'r heddlu ynghylch y mater.

'Reidio beic yn rhywbeth mor bwysig

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn 大象传媒 Radio Cymru fe ddywedodd pennaeth Ysgol Rhosgadfan eu bod yn gweld gwerth buddsoddiad y cynllun beics.

鈥淧an ddes i i鈥檙 ysgol rhyw chwe mlynedd yn 么l ac oedd hi鈥檔 wythnos beicio i鈥檙 ysgol, buan iawn 'naethon ni ddarganfod mai nifer fechan iawn, iawn o blant oedd yn gallu reidio beic," meddai Judith Jones.

鈥淔el rhywun a gafodd ei magu yn y 70au, yn byw ar gefn fy meic a bron a bod, o'n i'n cymryd yn ganiataol fod o鈥檔 rhywbeth oedd pawb yn ei wneud."

Ar 么l sylwi nad oedd mwyafrif y disgyblion yn gallu reidio beic, fe benderfynodd yr ysgol ofyn am roddion o unrhyw hen feics sb芒r er mwyn dysgu disgyblion.

鈥淢ae鈥檙 oes wedi newid, lle mae bywyd yn brysurach i rai oedolion a falle dim gymaint o sgiliau ac awch gan rieni - pan ma' technoleg yn rheoli'n bywydau ni gyd - bod reidio beic yn rhywbeth mor bwysig."

Yn 么l Ms Jones, roedd modd troi mater negatif yn bositif, ac felly aeth yr ysgol ati i 鈥渉yrwyddo beicio fel addysg beunyddiol鈥.

Bellach mae pob un o鈥檙 48 o blant sydd yn yr ysgol yn medru reidio beic, ac efo鈥檙 sgiliau angenrheidiol i ofalu am y beic hefyd.

'Trist'

Ond dros gyfnod yr haf, gyda phum beic wedi eu dwyn, mae鈥檙 ysgol unwaith eto yn gofyn am roddion.

鈥淭rist ydi hynna de," meddai Ms Jones.

鈥淢ae鈥檙 plant yn cael gwneud defnydd o le yr ysgol tu allan i oriau oherwydd 鈥榙a ni鈥檔 teimlo ei fod o鈥檔 le diogel iddyn nhw chwarae yn hytrach na鈥檙 lonydd.

鈥淥nd dros gyfnod yr haf mae pum beic mawr wedi mynd a r诺an does dim adnodd i helpu neb ym mis Medi fydd yn cychwyn os ydyn nhw dros wyth oed.

鈥淧l卯s felly, os oes gynno chi feic yn ista yn y sied dros amser hir, fe allwn ni roi gwasanaeth iddyn nhw ein hunain, a 'da ni鈥檔 edrych 'mlaen at eu cael nhw."

Pynciau cysylltiedig