大象传媒

HSBC i roi galwad yn 么l yn y Gymraeg o fewn diwrnod

HSBCFfynhonnell y llun, JOE GIDDENS
  • Cyhoeddwyd

Mae banc HSBC yn lleihau鈥檙 amser i gwsmer gael galwad yn 么l yn y Gymraeg o dri diwrnod gwaith i un.

Daw hynny wedi iddyn nhw gau eu gwasanaeth ff么n Cymraeg ar 15 Ionawr, ac yn ei le gynnig galwad yn 么l o fewn tridiau i siaradwyr Cymraeg.

Yn dilyn adolygiad, dywedodd y banc: "Rydym yn lleihau'r cyfnod hiraf ar gyfer galwad yn 么l o dri diwrnod gwaith i'r diwrnod gwaith nesaf."

Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith "bod gwasanaethau Cymraeg HSBC dal ymhell o fod yn gyfartal i鈥檞 gwasanaethau Saesneg".

14 galwad y diwrnod

Ers cau'r llinell ff么n, mae HSBC yn dweud eu bod wedi cael cyfartaledd o 14 o alwadau y diwrnod i rif y llinell Gwasanaeth Cymraeg.

Ond dim ond cyfanswm o 17 o geisiadau am alwad yn 么l a gafwyd.

Yr amser cyfartalog i gysylltu yn 么l 芒 chwsmer yw 1 awr 19 munud.

Yr alwad yn 么l gyflymaf oedd 10 munud, a chymerodd yr hiraf 4 awr 30 munud "oherwydd gwyliau cyhoeddus".

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae "adborth cwsmeriaid wedi bod yn gadarnhaol" ers cyflwyno'r gwasanaeth galw yn 么l, meddai Jos茅 Carvalho

Mewn llythyr at Delyth Jewell AS, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, a'r Gymraeg Senedd Cymru, dywedodd un o benaethiaid HSBC, Jos茅 Carvalho: "Mae gennym bellach yr hyder i leihau'r amserlen trwy ein profiadau o'r chwarter cyntaf."

Mae'n honni bod "adborth cwsmeriaid wedi bod yn gadarnhaol" ers cyflwyno'r gwasanaeth galw yn 么l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dim ond rhan o鈥檙 broblem yw鈥檙 gwasanaeth ff么n," meddai Si芒n Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith

Ond dywedodd Si芒n Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith: 鈥淒ydy鈥檙 cyhoeddiad yma ddim yn golygu llawer o ddim byd, gan fod rhwystrau mewn lle o hyd, sy鈥檔 golygu bod gwasanaethau Cymraeg HSBC dal ymhell o fod yn gyfartal i鈥檞 gwasanaethau Saesneg.

"Rydyn ni wir yn gobeithio nad yw HSBC yn disgwyl i gwsmeriaid fod yn ddiolchgar am hyn.

"A dim ond rhan o鈥檙 broblem yw鈥檙 gwasanaeth ff么n. Does dim gwasanaeth Cymraeg o gwbl ar-lein nac ar ap y banc, chwaith.

鈥淵 broblem sylfaenol - fel gafodd ei amlygu yn achos llys diweddar y cwmni parcio One Parking Solution yn erbyn Toni Schiavone - yw nad oes dim byd yn y ddeddfwriaeth bresennol sy鈥檔 gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector breifat, waeth beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yn gyhoeddus am statws swyddogol, cyfartal i鈥檙 iaith.鈥