Pobl ifanc i godi t欧 unnos ar Gomin Pontypridd
- Cyhoeddwyd
Ar fachlud haul nos Wener bydd criw o bobl ifanc yn codi t欧 ar Gomin Coedpenmaen ym Mhontypridd, gan ail-greu鈥檙 hen draddodiad Cymreig o godi t欧 unnos.
Mae codi adeiladau o'r fath yn rhan o l锚n gwerin Cymru.
Yn 么l y chwedl, os oes yna do ar d欧 a mwg yn dod o鈥檙 simdde erbyn toriad dydd, bydd y rheiny fu'n gyfrifol am ei adeiladu yn cael byw yno, a ffermio鈥檙 tir o鈥檌 gwmpas hyd at y pellter y gellir taflu bwyell o ddrws y t欧.
Digwyddiad celf wedi'i drefnu gan Citrus Arts yw'r gwaith ddydd Gwener, gyda'r nod o ysgogi trafodaeth am dai fforddiadwy.
Fe fydd y gwaith o godi'r t欧 unnos yn cychwyn ar fachlud haul nos Wener, gyda phobl ifanc rhwng 18 a 30 oed o bob cwr o Gymru yn gyfrifol am y gwaith
Bydd Seremoni Torri Tir Newydd yn dechrau am 18:30, lle caiff y gynulleidfa weld codi鈥檙 t欧, perfformiadau gan Syrcas Ieuenctid Citrus Arts, lluniadau t芒n, cerddoriaeth fyw gan Fand Pres Cynhwysol Cathays a darn gwerin wedi'i gomisiynu'n arbennig gan Cerys Hafana.
Ddydd Sadwrn bydd modd i'r gynulleidfa barhau i weld y t欧 yn cael ei godi, ynghyd 芒 gweithgareddau o hanner dydd gan gynnwys gweithdai, cerddoriaeth fyw, a sgyrsiau t芒n gwersyll.
Ar fachlud haul nos Sadwrn, mae鈥檙 artist rhyngwladol Mark Anderson wedi creu profiad sain Nodau o Rybudd ar y cyd 芒 Liam Walsh.
Mae'r holl ddigwyddiadau yma am ddim ar Gomin Coedpenmaen ym Mhontypridd.
Bu dwy sy'n cymryd rhan yn y prosiect - Seren Haf a Lucie Powell - yn siarad amdano ar Dros Frecwast fore Gwener.
"Ni ddim yn 'neud e dros nos - dyw e ddim mor fawr 芒 'na!" meddai Seren.
"Fydden ni'n 'neud e probably mewn tua awr, awr a hanner, a bydd y t欧 unnos wedyn yn aros lan am 24 awr.
"Wrth i hyn ddigwydd bydd llawer o berfformiadau - lot o hwyl yn mynd 'mlaen."
Ychwanegodd Lucy mai'r gobaith yw y bydd y gwaith yn ennyn sgwrs am y trafferthion y gall pobl ifanc wynebu yn ceisio prynu t欧 ar hyn o bryd.
"Blwyddyn yma mae Citrus Arts yn gwneud blwyddyn o ddigwyddiadau ar y pwnc 'cartref'," meddai.
"Felly mae'n bwysig siarad am gartref, a'r problemau mae pobl ifanc yn wynebu - yn enwedig yng Nghymru - yn prynu cartrefi.
"Felly'r nod ydy cynnal sgwrs."
'Ddim y tywydd gorau!'
Mae'r criw eisoes wedi adeiladu ffr芒m ar gyfer y t欧, ond gyda'r rhagolygon tywydd yn rhybuddio y gallai fod yn wlyb, maen nhw'n cyfaddef y gallai fod yn heriol.
"Falle fydd e ddim y tywydd gorau i adeiladu t欧, ond ni am fynd yn ein blaenau a threial ein gorau," meddai Seren.
"Falle mynd bach yn slow gyda'r t诺ls! Ond dyle fe fod yn iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2020
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018