大象传媒

Rowndiau rhagbrofol Euro 2025: Croatia 0-3 Cymru

CymruFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd y Cymry 0-3 yn ei g锚m olaf ond un o rowndiau rhagbrofol Euro 2025

  • Cyhoeddwyd

Enillodd Cymru eu g锚m olaf ond un yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 yn erbyn Croatia nos Wener.

Wedi g锚m gyfartal 2-2 yn erbyn Wcr谩in ym mis Mehefin, roedd angen buddugoliaeth ar d卯m Rhian Wilkinson i leihau'r pwysau ar frig Gr诺p B4.

Aeth Cymru ar y blaen yn yr 14eg funud gydag ergyd o ymyl y cwrt cosbi gan Jess Fishlock.

Roedd Cymru'n gyfforddus am weddill yr hanner cyntaf, yn rheoli'r meddiant a'n profi golgeidwad Croatia sawl gwaith.

Daeth yr ail g么l 20 munud fewn i'r ail hanner gydag ergyd oddi ar y postyn gan Sophie Ingle, ac fe seliodd y tri phwynt gyda chic o'r smotyn hwyr gan Kayleigh Barton.

Mae Cymru'n arwain y gr诺p o ddau bwynt, gyda g锚m gartref yn erbyn Cosofo nesaf dydd Mawrth.