Cyflwyno rhaglen frechu ar gyfer haint anadlol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd rhaglen frechu newydd i ddiogelu babanod a phobl h欧n rhag haint anadlol cyffredin yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ym mis Medi.
Gallai'r brechlyn arbed 1,000 o fabanod bob blwyddyn rhag gorfod cael triniaeth ysbyty am Feirws Syncytiol Anadlol (RSV), medd Llywodraeth Cymru.
Mae RSV yn feirws heintus sy'n effeithio naw o bob 10 o blant cyn eu pen-blwydd yn ddwy oed.
Fe all hefyd arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol i oedolion dros 75 oed, gan arwain at tua 125 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru.
O fis Medi bydd brechiad rhag RSV yn cael ei gynnig i ferched beichiog a phobl 75-79 oed.
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
I'r rhan fwyaf o bobl mae RSV yn achosi salwch anadlol ysgafn gyda symptomau tebyg i annwyd.
Ond i fabanod dan flwydd oed a'r henoed, mae risg sylweddol o haint difrifol a allai arwain at orfod mynd i'r ysbyty.
Dywed y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Mae tystiolaeth yn dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol a bydd brechu ein darpar famau yn helpu i atal ein babanod ieuengaf rhag mynd yn ddifrifol wael gyda鈥檙 feirws o鈥檜 genedigaeth.
"Bydd y brechlyn hwn hefyd yn ein helpu ni i gadw oedolion h欧n yn ddiogel dros fisoedd y gaeaf a byddwn yn annog pawb sy鈥檔 gymwys i鈥檞 gael.鈥
Ychwanegodd pennaeth brechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Christopher Johnson: "Mae鈥檔 rhaglen frechu newydd sy鈥檔 newid pethau a bydd yn amddiffyn miloedd o鈥檔 pobl mwyaf agored i niwed ni rhag mynd yn s芒l yn y lle cyntaf, neu鈥檔 lleihau鈥檔 sylweddol y tebygolrwydd o haint difrifol, gan gadw pobl allan o鈥檙 ysbyty a rhag bod angen gweld meddyg teulu, a galluogi mwy o bobl i gael budd o wasanaethau鈥檙 GIG.鈥