大象传媒

New Orleans y Bannau: 40 mlynedd o Jazz Aberhonddu

McCoy Tyner wrth y piano
Disgrifiad o鈥檙 llun,

McCoy Tyner, pianydd a chyfansoddwr fu'n rhan o bedwarawd enwog John Coltrane yn yr 1960au, yn perfformio yn Aberhonddu yn 1993

  • Cyhoeddwyd

Sonny Rollins, Amy Winehouse, St茅phane Grappelli, Dionne Warwick, Wynton Marsalis, Van Morrison... nid rhestr o artistiaid fu'n perfformio ar lwyfannau enwog yn Efrog Newydd neu Lundain ond mewn tref farchnad fechan ym Mhowys.

Ond dydi Aberhonddu ddim yn dref arferol yng nghefn gwlad Cymru.

Er bod llai na 10,000 yn byw yn y dref sydd wedi ei lleoli oddi ar yr A470, yn ystod cyfnod mwyaf poblogaidd G诺yl Jazz Aberhonddu roedd 50,000 yn heidio yno - ac yn eu mysg enwau mawr y byd jazz a cherddoriaeth gyfoes.

Ac wrth ddathlu ei deugain oed eleni, mae鈥檙 诺yl wedi dychwelyd i鈥檞 gwreiddiau ar 么l iddi bron 芒 dod i ben fwy nag unwaith.

Ffynhonnell y llun, G诺yl Jazz Aberhonddu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Poster o 1987, a 2004 pan oedd Amy Winehouse yn un o'r prif artistiaid

Fe ddechreuodd yr 诺yl yn 1984, nid efo'r bwriad o ddatblygu'n un o wyliau cerddorol mwyaf adnabyddus Ewrop ond i roi hwb i鈥檙 dref oherwydd ffordd osgoi newydd.

Yn 么l dau o'r trefnwyr presennol, Lynne Gornall a Roger Cannon, roedd pryder am effaith y datblygiad ar fusnesau鈥檙 dref ac felly fe gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod y mater.

Meddai Lynne: 鈥淩oedd pobl yn poeni bod pawb am fynd heibio Aberhonddu a pheidio stopio ac roedd pethau鈥檔 dirywio ychydig.

"Roedd pryder am yr economi a鈥檙 siopau yn stryglo, a phobl yn pendroni be' i'w wneud i roi hwb i鈥檙 lle.鈥

O 诺yl gymunedol i 诺yl fyd-enwog

Fe gynigiodd un person y syniad o ddigwyddiad cerddorol, tan i ffan jazz lleol Tony Constantinescou gynnig g诺yl jazz tebyg i rai oedd o wedi bod ynddyn nhw yn Ewrop.

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd teimlad cymunedol cryf i鈥檙 诺yl, gyda pherfformiadau mewn nifer o leoliadau yn y dref ac yn y sgw芒r.

Ffans jazz yng ngogledd Lloegr oedd Lynne a Roger ar y pryd, a glywodd am yr 诺yl newydd ym Mhowys - a hynny mewn cyfnod pan nad oedd cymaint o wyliau cerddorol.

Yn 1986 fe deithiodd y ddau i Bowys am y tro cyntaf - a chyffroi ar 么l gweld banner yn eu croesawu i Jazz Aberhonddu wrth gyrraedd y dref - ac maen nhw wedi bod bron pob blwyddyn ers hynny.

Ffynhonnell y llun, G诺yl Jazz Aberhonddu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roger Cannon (ar y chwith) a Lynne Gornall (ar y dde) gyda phobl ifanc a myfyrwyr lleol sy'n helpu i greu posteri i hyrwyddo'r digwyddiad

Meddai Roger: 鈥淏e鈥 oedd yn wahanol oedd bod hwn mewn tref farchnad fechan yn lle stad breifat neu rywbeth tebyg, a dim byd mewn marquee - i gyd yn defnyddio lleoliadau lleol neu du allan, efo鈥檙 brif lwyfan yng nghanol y dref.

"Roedd o鈥檔 ddigwyddiad reit gyhoeddus y dyddiau hynny, lot yn digwydd a phawb i weld yn rhan o鈥檙 诺yl.鈥

Sut ddenwyd s锚r UDA i Bowys?

Diolch i nawdd a threfnu da, fe dyfodd yr 诺yl.

Ond sut oedd perswadio s锚r o dramor - nifer yn gerddorion enwocaf y byd jazz o'r Unol Daleithiau - i ddod drosodd i Bowys?

Rhan o鈥檙 gyfrinach oedd bod y trefnwyr yn gwneud yn si诺r bod y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y penwythnos ar 么l g诺yl fawr jazz Caeredin a pherswadio鈥檙 s锚r o dramor oedd yn mynd i鈥檙 Alban i aros ymlaen am rai dyddiau er mwyn perfformio yn Aberhonddu.

Fe gafwyd nifer o gwmn茂au rhyngwladol i noddi鈥檙 诺yl hefyd. Tua'r flwyddyn 2000, roedd hanner y cyllid o 拢330,000 yn mynd i ddenu artistiaid.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dau o gewri'r byd jazz o UDA wnaeth berfformio yn Aberhonddu yn 1993: Lionel Hampton a Wynton Marsalis, un o drympedwyr gorau'r byd

Mae Roger yn cofio n么l i aros mewn gwesty yn y dref:

鈥淩oedd y gwesty wedi ei bwcio mwy neu lai yn llwyr i artistiaid - ond roedden ni wedi bwcio鈥檔 gynnar. Aethon ni lawr i frecwast ac roedd y stafell yn llawn o鈥檙 artistiaid Americanaidd 'ma - enwau mawr.

鈥淒wi鈥檓 yn meddwl bod yr artistiaid yma yn gwybod yn iawn lle鈥檙 oedden nhw. Roedden nhw鈥檔 hedfan i Gaeredin, cael eu cludo lawr i Aberhonddu, mynd ar y llwyfan i chwarae a meddwl 鈥榣le yda ni?!鈥欌

Trafferthion ariannol

Yn y pen draw, fe dyfodd yn rhy fawr. Gyda chymaint o bobl yn heidio i dref fechan roedd pwysau ar gyfleusterau a phroblemau thraffig.

Gyda鈥檙 enwau adnabyddus daeth y pebyll mawr i sicrhau cynulleidfa fwy, gan newid naws yr 诺yl. Daeth y digwyddiad yn esgus i rai dreulio鈥檙 penwythnos yn yfed yn hytrach na gwrando ar gerddoriaeth - a thrafferthion cymdeithasol yn sgil hynny.

Meddai Roger: 鈥淩oedd lot o ffans jazz a phobl leol wedi dadrithio efo hyn. Pan mae 鈥榥a noddwyr mawr maen nhw鈥檔 tueddu i yrru pethau a mynd i gyfeiriad penodol.鈥

鈥淲naeth o arwain i nifer o bobl leol ddweud 鈥榙yna鈥檙 penwythnos dwi鈥檔 mynd i ffwrdd',鈥 ychwanegodd Lynne.

Mae鈥檙 诺yl wedi wynebu trafferthion ariannol dros y blynyddoedd a chael ei hachub fwy nag unwaith. Pan wnaeth cwmni digwyddiadau benderfynu rhoi鈥檙 gorau i drefnu鈥檙 诺yl yn 2015 roedd pryderon eto y byddai鈥檔 dod i ben.

Ond daeth y gymuned leol, gan gynnwys Lynne a Roger a Chlwb Jazz Brecon, i鈥檙 adwy a chymryd yr awenau.

Ffynhonnell y llun, G诺yl Jazz Aberhonddu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Posteri G诺yl Jazz Aberhonddu

Er gwaetha鈥檙 anawsterau - a chlec ariannol Covid - mae wedi goroesi.

Mae hefyd wedi esblygu gan fynd yn 么l i'w gwreiddiau - yn llai ac yn cael ei rheoli gan y gymuned.

Tydi pethau ddim yn hawdd. Er bod 鈥榥a gefnogaeth ariannol, mae llai o nawdd - er enghraifft mae鈥檙 trefnwyr yn derbyn rhwng 拢10-15,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru o鈥檌 gymharu gyda 拢125,000 ddegawd yn 么l.

Bellach mae鈥檔 digwydd dros dri phenwythnos - o 4 Awst ymlaen eleni - yn hytrach nag un penwythnos hir, ac mae鈥檙 cynnwys wedi newid.

鈥淢ae mwy o wyliau a mwy o glybiau, felly llai o resymau i ddod i Aberhonddu am dair noson,鈥 meddai Lynne. 鈥淔elly mi ryda ni r诺an yn dod o hyd i artistiaid sy鈥檔 llai adnabyddus ond yn wirioneddol wych ac yn rhoi llwyfan iddyn nhw, felly mae pobl yn dod i Aberhonddu i ddod o hyd i enwau jazz newydd.鈥

Y dyfodol

Yn 么l y trefnwyr, mae'r enw 鈥楤recon Jazz鈥 yn adnabyddus iawn i bobl sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 byd jazz yn Ewrop ac UDA ac mae tua 80% o鈥檙 bobl sy鈥檔 ymweld 芒鈥檜 gwefan yn dod o ochr arall i F么r yr Iwerydd.

A rhan o鈥檙 rheswm dros y llwyddiant ydi rhywbeth wnaiff ddim newid, sy'n gwneud y trefnwyr yn hyderus i'r dyfodol.

Meddai Roger: "Mae gwyliau i'w wneud efo lleoliad, nid yn unig y pethau sy'n digwydd yno.

"Mae'n anodd rhoi bys arno ond mae'n 诺yl mewn tref fechan lle dydi rhywun ddim yn gweld y math yma o beth, ac mae o mewn safle gwyrdd.

"Mae i gyd i wneud efo鈥檙 lleoliad, ac os oes yna lefydd lle mae pobl yn gallu perfformio a lle maen nhw鈥檔 teimlo鈥檔 gyfforddus, a digon o amrywiaeth.

"Tydi o ddim yn rhywbeth mae rhywun yn gallu ei adeiladu a鈥檌 greu.鈥