大象传媒

Ymosodiad Abertawe: Dyn mewn cyflwr difrifol

Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhan o Ffordd y Dywysoges wedi cau yn dilyn y digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn Abertawe yn gynnar fore Mercher.

Cafodd un dyn ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd y Dywysoges, ac mae'r heddlu'n dweud bod ganddo anafiadau all beryglu ei fywyd.

Dywedodd Heddlu'r De bod dyn 26 oed o Wlad yr Haf wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol a bod dyn 27 oed o Gaerfaddon wedi ei arestio ar amheuaeth o anafu'n fwriadol.

Mae'r ddau yn y ddalfa.

Ers bore Mercher, mae rhan o Ffordd y Dywysoges, sy'n arwain i ganol y ddinas, wedi cau wrth i dimau fforensig archwilio'r safle.

Mae'n ymddangos bod swyddogion yn canolbwyntio ar ardal y tu allan i westy'r Travelodge.

Pynciau cysylltiedig