Mwy o amheuon am gynllun trydanu rheilffordd y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae amheuon o'r newydd am ddyfodol cynllun £1bn i drydaneiddio rheilffordd Gogledd Cymru, ar ôl i Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens ddweud ei bod hi’n “amau nad yw’r arian yna”.
Mae Llywodraeth Lafur newydd y DU yn ystyried dyfodol gwahanol gynlluniau isadeiledd ar hyn o bryd, wedi i adolygiad diweddar o wariant ddarganfod fod yna ddiffyg yn y cyfrifon o tua £22bn.
Roedd y cynllun trydaneddio yn y gogledd yn rhan ganolog o gynlluniau trafnidiaeth llywodraeth flaenorol y DU, oedd yn cael ei harwain gan y Ceidwadwyr.
Mae cwestiynau wedi codi yn y gorffennol am ddyfodol y cynllun wedi iddi ddod i'r amlwg nad oedd unrhyw ddatblygiad ffurfiol wedi cael ei wneud ar y cynllun ers 2013.
Cafodd cynlluniau i drydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru eu cyhoeddi ym mis Hydref y llynedd gan y prif weinidog ar y pryd, Rishi Sunak, gydag un o’i weinidogion yn rhoi “addewid cadarn” y byddai'r cynlluniau'n cael eu gwireddu.
Dywedodd y byddai’r cynllun yn cael ei gyllido yn sgil cwtogi cynllun rheilffordd HS2 rhwng Birmingham a Manceinion.
Ond dyw National Rail dal heb dderbyn y llythyr angenrheidiol gan yr Adran Drafnidiaeth sy’n cadarnhau bod arian ar gael a bod modd symud ymlaen gyda’r cynllun.
Dydy seilwaith y rheilffyrdd ddim yn faes sydd wedi ei ddatganoli felly Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol amdano, nid Llywodraeth Cymru.
'Amheus iawn iawn'
Ddydd Llun, fe gyhoeddodd y Canghellor newydd, Rachel Reeves, adolygiad gwariant oedd yn nodi ei bod wedi canfod diffyg o tua £22bn yn y cyfrifon – honiad sy’n cael ei wadu’n chwyrn gan y Ceidwadwyr.
Fel rhan o’r adolygiad, mae ysgrifennydd trafnidiaeth llywodraeth y DU, Louise Haigh, yn ystyried dyfodol yr holl brosiectau y mae hi'n gyfrifol amdanynt.
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
Mewn sgwrs gyda Radio Wales Breakfast fore Mawrth, awgrymodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens fod cofnodion ariannol y llywodraeth Geidwadol flaenorol yn gamarweiniol.
Dywedodd ei bod hi’n “amheus iawn iawn o’r cyhoeddiad o £1bn” gafodd ei wneud gan y Ceidwadwyr.
“Bydd yn rhaid i ni weld a oes yna arian neu beidio. Dwi’n tueddu i amau nad oes yna arian gan nad oedd 'na unrhyw esboniad pan wnaeth y Ceidwadwyr y cyhoeddiad ynglŷn â sut roedden nhw’n bwriadu talu am y cynllun," meddai Ms Stevens.
"Bydd y mater yn rhan o’r adolygiad mae’r ysgrifennydd trafnidiaeth yn ei gynnal ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd: “Os nad oes yna unrhyw arian, ni all y cynllun fynd yn ei flaen. Fel unrhyw deulu neu fusnes, mae’r llywodraeth yn yr un sefyllfa. Os nad yw’r arian yna, allwn ni ddim talu”.
Yn y gorffennol, mae rhai wedi amau os fydd £1bn yn ddigonol i ariannu cynllun o'r fath.
Mae arbenigwyr o’r byd busnes wedi awgrymu y gallai'r cynllun gostio hyd at £500m yn ychwanegol.
Mae’r ý ar ddeall bod cyfarfodydd wedi eu cynnal gyda rhanddeiliaid yn gynharach eleni, ond nad oes llawer o ddatblygiad wedi bod ers hynny.