Elin Fflur i gyflwyno rhaglen nos Wener ar Radio Wales
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores a'r cyflwynydd teledu Elin Fflur yn dweud ei bod "yn gyffrous iawn" wrth edrych ymlaen at gyflwyno rhaglen newydd wythnos nesaf ar 大象传媒 Radio Wales.
Dywed yr orsaf y bydd yn "dod ag egni ffres a bywiog i nosweithiau Gwener" rhwng 19:00 a 22:00, gyda'r rhifyn cyntaf nos Wener 9 Awst.
"Gen i angerdd mawr at gerddoriaeth a phobl a dwi'n teimlo bydd y sioe yma yn rhoi'r gorau o'r ddau i mi," dywedodd.
"Dwi'n edrych ymlaen at groesawu'r penwythnos gyda thiwns hapus a vibes da."
Dywed yr orsaf y bydd y rhaglen newydd "yn gyfuniad o nostalgia a llawenydd" ac yn llawn caneuon "disco a chlasuron parti" o'r 70au, 80au a'r 90au.
Fe fydd y gantores o F么n yn cyflwyno'r rhaglen yn fyw o ganolfan y 大象传媒 ym Mangor.
Gan ei chroesawu i'r orsaf, dywedodd pennaeth 大象传媒 Radio Wales, Carolyn Hitt y bydd "yn gwmni gwych ar nosweithiau Gwener i'n gwrandawyr".
Ychwanegodd: "Fel un o gantorion-cyfansoddwyr mwyaf talentog Cymru, bydd hi'n rhannu ei gwybodaeth ac angerdd cerddorol gyda'n cynulleidfa.
"Ac fel cyflwynydd medrus mae ganddi gynhesrwydd a charisma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2023