´óÏó´«Ã½

'Angen cydnabod cyfraniad siopau llyfrau Cymraeg'

Cant a milFfynhonnell y llun, Cant a mil
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai perchennog siop Cant a Mil weld rhagor o gydnabyddiaeth i'r sector am eu hymdrechion wrth hybu'r iaith

  • Cyhoeddwyd

A hithau'n Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol, mae rhai siopau Cymraeg yn galw am fwy o gefnogaeth a chydnabyddiaeth.

Mae perchennog un siop yng Nghaerdydd yn dweud bod Llywodraeth Cymru angen "hybu siopau Cymraeg ar draws Cymru" a chydnabod eu hymdrechion wrth hybu'r iaith Gymraeg.

Mae nifer o siopau o'r fath yn wynebu heriau amrywiol ar hyn o bryd, gyda rhai yn dweud bod rhaid addasu er mwyn goroesi.

Dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwerthfawrogi pwysigrwydd siopau llyfrau annibynnol i'r Gymraeg ac i fywiogrwydd yr iaith".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Er i siop Cant a Mil ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yn ddiweddar, dywed Jo Knell ei bod hi'n anodd cystadlu yn erbyn siopau cadwyn

Fe agorodd Jo Knell, sy'n gyn-athrawes Cymraeg ail iaith, siop Cant a Mil yn ardal Y Rhath yng Nghaerdydd yn 2014 er mwyn bod "yn hygyrch" i siaradwyr Cymraeg o bob gallu.

"Da ni'n denu pobl o ardal reit eang, ond mae ardal leol y siop yn bwysig iawn i ni hefyd," meddai.

Dywed Jo fod cystadlu gyda siopau cadwyn a gwefannau poblogaidd yn anodd.

"Mae'n faes heriol iawn ar hyn o bryd o ran cystadlu gyda chwmnïau byd eang, yn enwedig ar y we, yn enwedig cwmnïau sydd ddim ar y stryd fawr.

"Os 'da chi eisiau 'neud arian, 'da chi ddim yn agor siop ar y stryd fawr."

Mae Jo Knell yn ystyried Cant a Mil fel rhywle gall pobl fynd i dderbyn cyngor am ddysgu Cymraeg, gan gynnig gwasanaeth mwy personol na siop lyfrau cadwyn.

"Gobeithio, mwy a mwy, mae pobl yn dod i sylweddoli'r gwahaniaeth, a bo' ni'n gallu cynnig gwasanaeth arbenigol," meddai.

"Dwi'n teimlo'n eithaf cryf bod siopau Cymraeg yn cynnig rhywbeth penodol.

"Mae 'na siopau bach ar strydoedd mawr Cymru, ac os 'da chi'n mynd fewn i'r siopau yna mae 'na rywun yn siarad Cymraeg."

Dyw Ms Knell ddim yn credu bod ei gwaith hi na pherchnogion siopau annibynnol Cymraeg eraill wrth hyrwyddo'r iaith yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru.

"Dwi'n meddwl bod 'na waith i Lywodraeth Cymru 'neud yn hybu siopau Cymraeg ar draws Cymru, a chyfeirio'r cyhoedd atom ni."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r toriadau diweddar i gyllid y Cyngor Llyfrau yn "siomedig", yn ôl Helgard Krause

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi siopau llyfrau gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Ond, mae'r prif weithredwr Helgard Krause yn dweud bod toriadau diweddar i gyllid y Cyngor Llyfrau yn "siomedig".

"O'n i'n teimlo fod 10% o doriad i'r Cyngor Llyfrau yn drwm, drwm iawn ar gyllid oedd yn fach yn barod, ac wrth gwrs ma’ hyn yn effeithio ar sut allwn ni gefnogi siopau.

"Does 'na ddim lot o gefnogaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn mynd at y siopau, ac efallai yn bwysicach na chefnogaeth ariannol, does 'na ddim vision ar gyfer y stryd fawr.

"Mae siopau llyfrau yn stryglan yn union fel unrhyw siop annibynnol ar y stryd fawr.

"Mae cwestiwn mawr i Lywodraeth Cymru a chynghorau sir - beth yn union maen nhw'n ei wneud?"

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Aled Rees gau drysau Siop y Pethe, Aberystwyth ym mis Mawrth

Roedd Siop y Pethe yn rhan annatod o'r stryd fawr yn Aberystwyth ers 1967, a hon oedd y siop gyntaf i werthu llyfrau a recordiau yn y Gymraeg.

Yn 2015, fe wnaeth y perchnogion, Gwilym a Megan Tudur, drosglwyddo'r siop i Aled Rees.

Ym mis Mawrth eleni, fe wnaeth Mr Rees y '"penderfyniad anodd" i gau drysau'r siop a symud i werthu ar-lein yn unig.

"Mae hwn wrth gwrs achos Covid a phopeth, felly falle bai ni ydy o fel siop," meddai.

"Falle ein bod ni heb ganolbwyntio llawer ar y llyfrau gan ein bod ni wedi gweld y [diffyg] gwerthiant, a falle nifer y bobl ar y stryd fawr yn mynd i lawr dros amser."

Mae Mr Rees yn dweud bod y gwaith o addasu'r busnes yn parhau.

Ychwanegodd: "Ar y foment, 'da ni'n gweithio yn y cefndir ar y wefan ac yn datblygu'r dechnoleg. Dwi byth a dweud eto os bydd e'n llwyddiannus."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Siop Caban enillodd y wobr am y siop lyfrau orau yng ngwobrau manwerthwyr annibynnol Cymru eleni

Siop Caban ym Mhontcanna, Caerdydd enillodd y wobr am 'siop lyfrau orau' yng ngwobrau manwerthwyr annibynnol Cymru eleni.

Dywedodd y perchennog, Elin Edwards, fod y clod yn annisgwyl.

"S'gen i ddim syniad sut ddigwyddodd o, ond ges i e-bost gan rywun, ac oedd rhywun wedi fy enwebu i.

"Mae'n amser reit anodd ar hyn o bryd felly oedd o'n neis gallu cefnogi'n gilydd."

Dywedodd Ms Edwards bod siopau llyfrau annibynnol "yn fwy na jyst siop".

"Mae'n hwb, neu'n hafan i bobl ddod fewn i gael sgwrs. 'Da chi'n dod i nabod eich cwsmeriaid.

"Os nad yw pobl yn cefnogi'r siopau lleol ma', mi fyddan nhw'n mynd."

Ffynhonnell y llun, Siop Caban
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Edwards yn dweud bod siop Caban yn "hafan" i gwsmeriaid

Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: "Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd siopau llyfrau annibynnol i'r Gymraeg ac i fywiogrwydd yr iaith.

"Mae'r siopau hyn nid yn unig yn cynnig cyfle i brynu llenyddiaeth Gymraeg a chynnyrch lleol, ond hefyd yn darparu cyfleoedd i gymdeithasu, gan gyfrannu at yr ymdeimlad o gymuned yn eu hardaloedd lleol.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a'n nod yw sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'n siopau llyfrau Cymraeg annibynnol wych, sy'n annog defnydd o'r iaith mewn ffordd mor ymarferol ac ystyrlon."

Edrych i'r dyfodol

Er yr heriau presennol, mae Cant a Mil, Caban, a Siop y Pethe i gyd yn edrych tuag at y dyfodol.

Yng nghanol mis Mehefin, fe wnaeth Cant a Mil ddathlu degawd ers dechrau'r busnes.

"Ni newydd symud i'r siop newydd, felly ni'n edrych ymlaen at gyfnod newydd, ac mae llawer mwy o le gyda ni.

"Mae gyda ni fwy o gyfle i hyrwyddo'r iaith a'i wneud yn fwy amlwg.

"'Da ni'n edrych ymlaen at y dyfodol."