28% o bobl sydd o oed gweithio ddim mewn swydd
- Cyhoeddwyd
Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd o wledydd y Deyrnas Unedig, yn ôl ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau.
Doedd 28.4% o boblogaeth Cymru, sydd o oed gwaith ac sy'n gymwys i weithio, ddim mewn swydd nac yn chwilio am waith yn y tri mis hyd at fis Ebrill.
Mae'n gynnydd o 1.7% o'i gymharu â'r tri mis blaenorol, a 3.7% yn uwch o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Mae graddfa diweithdra Cymru yn yr un cyfnod ar 3.5%, sy'n is na'r cyfartaledd drwy'r Deyrnas Unedig o 4.4% - ei lefel uchaf ers mis Medi 2021.
Mae'r raddfa diweithdra wedi gostwng 0.6% o'i gymharu â'r tri mis blaenorol, a 2.5% o'i gymharu â'r un chwarter y llynedd.
Ar hyd y Deyrnas Unedig mae cyflogau yn dal i godi ar y cyfan, gyda thâl arferol yn codi 6% yn y 12 mis diwethaf.
Ond mae'r Swyddfa Ystadegau yn rhybuddio fod problemau diweddar gyda chasglu ymatebion i'w harolwg yn golygu bod angen trin y ffigyrau yn ofalus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
- Cyhoeddwyd9 Mai
- Cyhoeddwyd10 Mai