Angen mwy o ‘swyddi da’ i gadw pobl ifanc yn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am fwy o "swyddi da" er mwyn cadw pobl ifanc i weithio ar Ynys Môn.
Daw hyn wrth i'r ynys weld mwy o bobl rhwng 15 a 29 oed yn gadael yr ynys na sy’n symud i fyw yno dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
I Osian Roberts, syn paratoi i ddechrau ei swydd ddelfrydol, dywedodd ei fod yn "siom gorfod symud o'r ardal".
Mae Osian yn astudio peirianneg awyrennol yng Ngholeg Menai Llangefni cyn mynd ymlaen i weithio i Airbus.
Ag yntau wedi gorfod gadael ei fro er mwyn gwneud hynny, dywedodd: “Dwi ‘di bod yn lwcus i gael y swydd dwi ‘di cael gyda chwmni mawr, yn enwedig achos does dim swyddi sy’n talu’r fath o arian mae Airbus yn talu o gwmpas yr ardal yma".
Ychwanegodd ei fod yn "siom gorfod symud o’r ardal, ond does dim dewis. Mae angen mwy o swyddi da yma i newid pethau.”
'Dim cymaint o gyfleoedd'
Mae Geraint Roberts, 17, yn un o ffrindiau gorau a chyd-fyfyrwyr Osian.
Yn wahanol i Osian, mae'n dal i obeithio y bydd yn gallu ffeindio swydd dda ar Ynys Môn.
Dywedodd: “Dwi’n chwilio am rywbeth mwy lleol na Osian ond mae o’n anodd. Does dim cymaint o gyfleoedd i fynd uchel fyny rownd fan hyn, ti’n sôn am nifer fach iawn o swyddi rili. Ond dwi’n dal i ddyfalbarhau.”
Ond nid pawb sydd am aros yn lleol am byth.
Mae Ffion Parry yn gobeithio cael lle ar gwrs yn Ardal y Llynnoedd, yng ngogledd orllewin Lloegr ar ôl gorffen astudio Gwasanaethau Gwarchod Mewn Lifrai.
Dywedodd ei bod yn "gorfod gadael yr ynys i wneud yr hyn dwi am wneud nesaf ond mae hynny’n gyffrous.
"Dwi’n edrych ymlaen at fyw yn rhywle arall am gyfnod, ond dwi’n gobeithio dod 'nôl ar ôl gorffen y cwrs ac mae hynny’n achosi i fi boeni ychydig o ran be’ dwi’n mynd i wneud yma.
"Does dim llawer o gwmpas yr ardal yma, o ran swyddi da beth bynnag.”
Mae Ynys Môn wedi gweld mwy o bobl rhwng 15 a 29 oed yn gadael yr ynys na sy’n symud i fyw yno dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Mae’r sefyllfa o ran hynny yn waeth ar yr ynys nac ym mhob un o etholaethau eraill Cymru heblaw dau.
Felly sut mae datrys y broblem?
Mae Dafydd Gruffydd yn rheolwr gyfarwyddwr ym Menter Môn. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi 85 o bobl ar draws yr ardal.
Gobaith y fenter yw cefnogi mwy o bobl ifanc yn y dyfodol trwy brosiectau ynni adnewyddadwy newydd.
“Ynys Môn yw’r ynys ynni. Mae ‘na gyfleoedd yma o ran solar, gwynt, y llanw a niwclear o bosib. Mae'r rhain yn swyddi da sydd angen sgiliau tebyg ac felly mae angen i ni gefnogi ein pobl ifanc ni i gael y sgiliau yna.
Ychwanegodd: “Dwi’n nabod nifer o gyrff ar Ynys Môn, gan gynnwys ni ein hunain, sy’n cael trafferth yn recriwtio pobl ifanc ac felly mae’n bwysig ein bod ni’n sôn am y cyfleoedd cyffrous sydd yma.
"‘Da ni angen pobl ifanc i aros yma a datblygu’r diwydiant er mwyn i’r ardal gyrraedd ei photensial.”
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod economi cryf yn "arwain at wasanaethau cyhoeddus cryf", gan ychwanegu "nad oes gan Lafur gynlluniau i dyfu economi Cymru, i gael pobl mewn swyddi, i gynyddu cyflogau gweithwyr yng Nghymru nac i gefnogi busnesau Cymreig".
Dywedodd Llafur: "Mae'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn canolbwyntio ar warchod swyddi Cymraeg, cael pobl allan o dlodi a mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw y mae'r Torïaid wedi ei greu," gan ddweud eu bod wedi eu "cyfyngu gan lywodraeth Geidwadol" yn San Steffan.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Rydym yn llwyr gydnabod yr heriau sy’n golygu bod pobl ifanc yn gadael yr ynys i chwilio am waith, ac mae Plaid Cymru’n benderfynol o wyrdroi hynny.
"Mae angen creu Ynys Môn ffyniannus er budd pob rhan o’n cymdeithas" gan ychwanegu fod eu ffocws ar "sicrhau tegwch ariannol i Gymru".
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn "cynnig rhywbeth gwahanol i'r status quo presennol", ac y bydda nhw yn datblygu "economi gref drwy fuddsoddi, gosod trethi teg a rheolaeth gyfrifol o arian cyhoeddus".
Mae Reform wedi cael cais am ymateb.